Sorba Thomas 'heb ei anafu' ar ôl damwain car

Car Sorba Thomas

Mae asgellwr Cymru Sorba Thomas "heb ei anafu" ar ôl damwain car fore Gwener.

Dywedodd ei glwb, Hull City, nad oedd wedi dioddef unrhyw anafiadau ar ôl i lun o'r car gael ei rannu ar-lein.

Mae'r car wedi troi ben i waered, gyda'r ffenestri wedi eu torri.

Mewn datganiad dywedodd Hull City: "Rydym yn falch o gadarnhau nad yw Sorba Thomas wedi cael ei anafu yn dilyn damwain car ger safle hyfforddi'r clwb yn Cottingham.

"Mae'r clwb yn ymwybodol o ddelweddau o gar Sorba sy'n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, a gallwn sicrhau cefnogwyr nad yw wedi cael unrhyw anafiadau."

Fe wnaeth Thomas arwyddo i Hull City o Stoke City ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo ar ddechrau'r mis.

Mae disgwyl iddo gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn erbyn Portiwgal a Denmarc yn ddiweddarach ym mis Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.