Plaid Cymru drwch blewyn ar y blaen mewn arolwg barn newydd

Plaid Cymru Senedd

Mae'r arolwg barn cyntaf ar gyfer Senedd Cymru ers yr etholiad yn awgrymu bod Plaid Cymru yn parhau ar y blaen, ond o drwch blewyn.

Mae arolwg Survation yn awgrymu bod gan Plaid Cymru 33% o gefnogaeth pleidleiswyr, i lawr dau bwynt canran o gymharu â’i chanlyniad yn yr etholiad ym mis Mai.

Mae Reform UK ar 31%, i fyny dau bwynt canran, a Llafur ar 14%, i fyny tri phwynt canran.

Mae’r Ceidwadwyr wedi colli dau bwynt canran, i lawr i 9%. 

Mae’r Blaid Werdd i lawr un pwynt canran i 6%, a chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol wedi aros yn yr unfan ar 5%.

Fe wnaeth Survation gynnal yr arolwg barn ar-lein o 1,023 o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru ar ran YesCymru.

Roedd y gwaith maes yn cael ei gynnal rhwng 13 a 24 Awst 2026.

Pan ofynnwyd am refferendwm posibl ar annibyniaeth i Gymru, roedd 32% o blaid annibyniaeth a 68% yn erbyn.

Mae’r ffigurau hynny’n ystyried pa mor debygol oedd yr ymatebwyr o bleidleisio, ac yn eithrio’r rhai heb benderfynu neu a wrthododd ateb.

Mae'r un arolwg hefyd yn dangos Reform UK ar y blaen o ran bwriadau pleidleisio ar gyfer etholiad San Steffan yng Nghymru, gyda Phlaid Cymru yn ail.

Mae’n awgrymu bod Reform UK ar 31% (+14), Plaid Cymru ar 21% (+6), a Llafur ar 19% (-18).

Mae’r Ceidwadwyr ar 13% (-5), y Blaid Werdd ar 9% (+4), a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 5% (-2).

Mae’r ffigurau mewn cromfachau yn dangos y newid mewn pwyntiau canran o gymharu â chanlyniadau’r pleidiau yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.