El Niño: Disgwyl hydref gwlypach na’r arfer
Mae hydref gwlypach na’r arfer yn fwy tebygol yn y DU o ganlyniad i’r amodau El Niño yn y Môr Tawel, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Mae’r tebygolrwydd o hydref meteorolegol cynnes a gwlyb yn y DU, gan gynyddu’r perygl o lifogydd, tua un a hanner i ddwywaith yn uwch na’r arfer.
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod tywydd gwyntog hefyd yn fwy tebygol yn ddiweddarach yn y tymor.
Mae disgwyl i’r El Niño eithriadol o gryf yn y Môr Tawel effeithio ar y tywydd ar draws y byd.
Mae El Niño yn digwydd pan fydd tymheredd wyneb y môr mewn rhannau trofannol o’r Môr Tawel yn uwch na’r cyfartaledd. Gall effeithio ar batrymau tywydd yn Ewrop.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd fod yr El Niño presennol eisoes yn agos at y lefelau uchaf erioed.
'Sawl ffactor'
Yn hanesyddol, mae cyfnodau El Niño wedi tueddu i fod yn gysylltiedig â thywydd cynhesach, gwlypach a mwy stormus yn y DU a gogledd Ewrop ddiwedd yr hydref a dechrau’r gaeaf.
Dywedodd prif feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Ian Lisk: “Mae’r rhagolygon tymhorol diweddaraf yn awgrymu bod tywydd gwlypach na’r cyfartaledd yn fwy tebygol wrth i’r hydref fynd rhagddo.
“Byddai hynny’n cyd-fynd â dylanwad hanesyddol cyfnodau El Niño.
“Ond dim ond un o sawl ffactor sy’n effeithio ar dywydd y DU yw El Niño, ac nid yw’n pennu’n union pa amodau y byddwn ni’n eu profi.
“Er y gallai hwn ddod yn un o’r cyfnodau El Niño cryfaf ers dechrau cadw cofnodion, nid yw hynny’n golygu’n awtomatig y bydd yr effeithiau’n fwy difrifol yn y DU.
“Byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau’n agos ac yn diweddaru ein rhagolygon wrth i’n hyder ynddyn nhw ddatblygu.”
Mae Cymru gyfan yn parhau i fod mewn statws sychder swyddogol meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Er bod y tywydd oerach diweddar a pheth glaw wedi dychwelyd, mae lefelau dŵr dan ddaear wedi gostwng yn sylweddol.
