AI yn cyfrannu at dwf annisgwyl yn economi y DU
Roedd deallusrwydd artiffsial (AI) wedi cyfrannu at hwb annisgwyl o 0.4% at dwf economi y DU ym mis Gorffennaf.
Fe wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gyhoeddi’r ffigurau diweddaraf ar gyfer cynnyrch domestig gros (GDP). Roedd y twf yn uwch na’r 0.3% a gafodd ei gofnodi ym mis Mehefin.
Dywedodd yr ONS bod y sector gwybodaeth a chyfathrebu wedi tyfu 2.4% yn ystod y mis.
“Mae llawer o'r busnesau a adroddodd y trosiant mwyaf ym mis Gorffennaf 2026 yn ymwneud â gweithgareddau sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadura cwmwl,” medden nhw.
Roedd y cynnydd yn annisgwyl gan fod economegwyr wedi rhagweld na fyddai unrhyw dwf yn yr economi yn ystod y mis.
Dywedodd Liz McKeown, cyfarwyddwr ystadegau economaidd yr ONS: “Fel ym mis Mehefin, dywedodd rhai busnesau fod y tywydd cynnes a Chwpan y Byd FIFA wedi effeithio ar eu gweithgarwch.
“Roedd yr effeithiau’n amrywio rhwng diwydiannau, gan fod o fudd i rai busnesau ond yn creu heriau i eraill.”
