Cynnal angladd y Cymro Syr Billy Boston, un o fawrion rygbi’r gynghrair
Daeth galarwyr a llu o gefnogwyr rygbi’r gynghrair at ei gilydd yn nhref Wigan ddydd Iau ar gyfer angladd un o fawrion y gamp, y Cymro Syr Billy Boston.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, daeth Syr Billy yn eicon yng ngogledd-orllewin Lloegr am iddo ddisgleirio ar y cae yng nghrys enwog Wigan Warriors.
Bu farw ym mis Awst yn 92 oed.
Cynhaliwyd ei angladd yn stadiwm Wigan, gyda nifer o garfan bresennol y clwb ymhlith y dorf. Cyn hynny, daeth pobl leol i dalu teyrnged iddo wrth i’w arch gael ei chludo drwy’r dref.
Cyhoeddodd Cyngor Wigan y bydd sgwâr yng nghanol y dref yn cael ei ailenwi ar ei ôl.
Cafodd Syr Billy ei eni yng Nghymru yn 1934, ac fe sgoriodd 478 o geisiadau i Wigan mewn 488 o gemau ar ôl newid o rygbi’r undeb i’r gynghrair yn 1953.
Fe gafodd ei urddo'n farchog y llynedd - y chwaraewr cyntaf yn hanes rygbi'r gynghrair i dderbyn yr anrhydedd.
Teithiodd nifer o bobl o Gaerdydd i Wigan ar gyfer yr angladd ddydd Iau, yn ôl adroddiadau, gyda digwyddiad yn cael ei gynnal yn Nhre-Biwt i’r rheiny na allai deithio.
Cafodd cerflun o Syr Billy ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd yn 2016.
