‘Dwi'n torri nghalon’: Pryder am ddyfodol Tŷ Hyll wrth i’r adeilad fynd ar werth
‘Dwi'n torri nghalon’: Pryder am ddyfodol Tŷ Hyll wrth i’r adeilad fynd ar werth
Mae rheolwr caffi Tŷ Hyll yn dweud ei bod yn “torri nghalon” wrth i un o adeiladau mwyaf adnabyddus Eryri fynd ar werth.
Mae Jane Davies yn poeni y bydd yr adeilad hanesyddol rhwng Capel Curig a Betws-y-coed yn cau i’r cyhoedd os bydd yn cael ei droi’n dŷ preifat.
Mae Cymdeithas Eryri, yr elusen gadwraeth sy’n berchen ar y safle, yn bwriadu ei werthu mewn ocsiwn ar 23 Medi, gydag amcanbris o £199,000.
Dywedodd y Gymdeithas nad oedd y penderfyniad yn un hawdd, ond ei bod am ailgyfeirio ei hadnoddau at waith arall.
Mae Jane Davies wedi cynnig prynu’r adeilad ei hun.
"Dwi'n torri nghalon," meddai.
"Dwi 'mishio fo gau i'r cyhoedd, dyna sy'n poeni fi."
"Dwi isio fo fod ar agor i bawb gael dod i weld y tŷ."
"Dwi ddim isio fo gael ei wneud yn dŷ preifat."
Mae cannoedd wedi llofnodi deiseb gan gefnogwyr y caffi yn galw ar Gymdeithas Eryri i ailystyried y penderfyniad. Dywedodd staff y caffi eu bod yn ddiolchgar am y gefnogaeth.
"Tydyn nhw ddim yn stipulatio be sydd yn digwydd i'r tŷ a dyna sydd yn poeni fi fwyaf," ychwanegodd Jane.
Prynodd Cymdeithas Eryri Dŷ Hyll ym 1988. Bu’n bencadlys iddi tan 2010, ac ers hynny mae wedi bod yn gaffi ac yn ganolfan i wenyn mêl.
Er bod sawl chwedl yn gysylltiedig â’r adeilad ar ochr yr A5, nid oes sicrwydd pwy a’i hadeiladodd na phryd.
Mae James Charlton, sy’n gweithio yn y caffi yn achlysurol, yn dweud bod y lle’n bwysig i bobl leol ac ymwelwyr.
"Mae'r lle yn boblogaidd iawn efo pobol lleol ac mae lot o dwristiaid yn dod yma hefyd," meddai.
"Mae'n sefyllfa drist iawn."
Pan ofynnwyd iddo beth sy’n gwneud Tŷ Hyll mor arbennig, atebodd gan chwerthin: "Dydio ddim yn hyll o gwbl!"
Ail-fuddsoddi yn Eryri
Yn ôl Cymdeithas Eryri, bydd yr arian o’r gwerthiant yn cael ei ail-fuddsoddi yn nhirwedd, bywyd gwyllt a phobl Eryri, ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg dyddiol yr elusen.
Dywedodd ei chyfarwyddwr, Graeme Cotterill: “Dydyn ni ddim yn gwerthu Tŷ Hyll er mwyn codi arian at ein defnydd ein hunain, ac rydym wedi ymrwymo’n benodol i ail-fuddsoddi unrhyw elw yn uniongyrchol yn nhirwedd, bywyd gwyllt a phobl Eryri.”
Mae’r Gymdeithas yn cydnabod nad oes ganddi reolaeth dros gynlluniau unrhyw berchennog newydd, ond dywedodd y byddai’n eu hannog i barhau i groesawu ymwelwyr.
Mewn sylwadau ychwanegol, dywedodd Mr Cotterill: “Bydd Cymdeithas Eryri yn annog unrhyw berchnogion newydd i barhau i groesawu ymwelwyr i’r eiddo hanesyddol, yr ardd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt a’r coetir cyfagos, ac rydym wedi ymrwymo i’w helpu i wneud hynny, gan gynnwys cefnogi grwpiau o wirfoddolwyr lleol i helpu i gynnal a chadw’r tiroedd, os oes angen.”