Ymdrech newydd i adfywio stryd fawr Llanbedr Pont Steffan

Ymdrech newydd i adfywio stryd fawr Llanbedr Pont Steffan
Mae ymdrech o'r newydd i geisio adfywio stryd fawr Llanbedr Pont Steffan.
Mae Cyngor Ceredigion wedi prynu adeilad gwag yn y dref, gyda bwriad i'w adnewyddu a'i gynnig i fusnesau newydd.
Yn ogystal, mae murlun gan artist lleol wedi ei ddadorchuddio yn ddiweddar ar wyneb yr adeilad ac mi fydd yn aros yno tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen.
Mae'r hen siop Spar wedi bod ar gau ers rhyw bum mlynedd, ond y gobaith yw y bydd cyfle i ddau fusnes gael cartref newydd ar y stryd fawr, yn ogystal â fflatiau newydd uwchben.
Yn brosiect peilot fel rhan o raglen Datblygu ac Adfywio Cyngor Sir Ceredigion, gobaith y cyngor sir yw atal dirywiad pellach i'r stryd fawr.
Dywedodd Rhodri Evans, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio ar Gyngor Ceredigion, wrth raglen Newyddion S4C: "Dim yr elw yw'r elfen fan hyn. Fi'n credu ma' cael busnese i symud 'mlan, dechrau off, ond hefyd falle busnesau sydd mewn bodolaeth ar hyn o bryd, a neud yn siwr bod rheiny yn cal yr help sydd angen arnyn nhw".