Lansio ymgynghoriad ar gyfyngu ffonau symudol mewn ysgolion

Merch ysgol gyda ffon symudol

Mae ymgynghoriad wedi ei lansio ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru. 

Fe fydd yr ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos, ac yn helpu i lunio'r canllawiau i gefnogi ysgolion i ddatblygu polisi ffonau symudol. 

Bydd y canllawiau newydd yma yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2027, yn ôl Llywodraeth Cymru. 

Daw hyn mewn ymateb i bryderon cynyddol am yr effaith y mae'r defnydd o ffonau symudol yn ei chael ar lesiant, dysgu ac ymddygiad dysgwyr.

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud eu bod yn cydnabod y rôl bwysig y gall technoleg ddigidol ei chwarae mewn addysg pan yn cael ei defnyddio mewn ffordd briodol.

Ychwanegodd y llywodraeth eu bod yn gobeithio y bydd y canllawiau yn darparu "mwy o eglurder a chysondeb ledled Cymru" ac yn "helpu ysgolion i ddatblygu a gwella eu polisïau ffonau symudol".

'Clir a chadarn'

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan: "Roedd Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf yn cynnwys ymrwymiad clir i weithredu ar y mater o ddefnydd ffonau symudol mewn ysgolion.

"Rwy’n cefnogi’n llawn, ac yn annog yn gryf, gyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar ddefnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, hyd at ac yn cynnwys cyfyngiad llwyr ar draws safle’r ysgol. 

"Mae’r effaith y gall ffonau symudol, cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ehangach ei chael ar lesiant, ymddygiad a phrofiadau dysgu yn sylweddol, ac mae ysgolion a theuluoedd wedi codi pryderon dilys am dynnu sylw yn yr ystafell ddosbarth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.