Cynnydd mewn tymheredd môr yn bygwth 'difetha' cynefinoedd morol Cymru

Cynnydd mewn tymheredd môr yn bygwth 'difetha' cynefinoedd morol Cymru

Mi allai cynefinoedd ar hyd arfordiroedd Cymru a phrosiectau morwellt fod mewn peryg o gael eu difrodi oherwydd cynnydd sylweddol yn nhymheredd y môr, yn ôl ymchwilwyr.

Ym mis Awst cofnodwyd tymheredd cyfartalog arwyneb y môr uchaf ar gofnod ledled y byd gydag arbenigwyr yn dweud fod hynny eisoes yn cael effaith yng Nghymru.

Yr El Niño sy’n datblygu dros y Cefnfor Tawel sy’n rhannol gyfrifol dros y cynnydd ond mae ymchwilwyr yn dweud fod tymheredd moroedd Cymru wedi codi oddeutu 2-3 gradd selsiws dros y ddegawd ddiwethaf.

Mae disgwyl felly dros y blynyddoedd nesaf y gallai rhai rhywogaethau cynhenid adael arfordiroedd Cymru wrth i rywogaethau newydd gyrraedd.

Oddi ar arfordir Porthdinllaen ym Mhen Llŷn, mae gwely Morwellt o blith y dwysaf drwy Gymru ac yn gorchuddio ardal sy’n cyfateb i 40 cae pêl-droed.

Image
Morwellt

Mae’n gynllun sydd wedi’w feithrin gan ymchwilwyr ac yn feithrinfa i bysgod, yn amsugno carbon ac yn hafan i fioamrywiaeth.

Ond yn ôl ymchwilwyr sy’n gwarchod y safle mae’r cynnydd yn nhymheredd y môr yn golygu y gallai’r cynllun fod mewn peryg dros y blynyddoedd sydd i ddod.

“Mae 'na gynnydd sylweddol di bod yn y 40 mlynedd diwethaf ond yn enwedig yn y 10 mlynedd diwethaf,” meddai Seren Harris Swyddog Prosiect Morol ACA.

“Ni di gweld tymheredd mewn rhai ardaloedd dros 3 selsiws i be ’sa ni’n ei ddisgwyl adeg yma’r flwyddyn”.

Yn ôl Seren Harris mae’r cynllun morwellt yn un o bwysigrwydd cenedlaethol ond wrth i dymheredd y môr godi, fe allai ddifetha’r morwellt dros amser.

“Dydio ddim yn licio tymereddau uchel felly yn anffodus os da ni’n gweld yr un cynnydd wrth symud mlaen mi fydd o’n stryglo i addasu ac mi alle ni weld collapse yn y system”.

Mae’r morwellt hefyd yn cynnig amddiffynfa i’r arfordir ac yn cynhyrchu ocsigen a hidlo dŵr.  

Rhywogaethau gwahanol

Wedi haf a ddaeth a sawl ton o wres a thannau gwyllt yng Nghymru mae ‘na rybudd hefyd fod anifeiliaid sy’n byw ar draws yr arfordir mewn peryg o un ai golli neu orfod cystadlu am eu cynefinoedd a bwyd.

Wrth i’r môr o amgylch Cymru boethi mae rhywogaethau newydd yn ymddangos, meddai Laura Hughes, Cydlynydd Arfordirol Ardal Cadwraeth Pen Llŷn a’r Sarnau.

“Da ni wedi sylwi yn ddiweddar fod 'na fwy o ddolffiniaid cyffredin yn ymweld, da ni’n gweld llawer mwy o gwmpas Enlli nag oedda ni ‘chydig o flynyddoedd yn ôl”.

“Mae’n debyg oherwydd bod nhw’n rhywogaethau sy’n hoffi dŵr cynhesach ac maen nhw’n dechrau symud i mewn i’r ardal.

Image
Laura Hughes
Laura Hughes, Cydlynydd Arfordirol Ardal Cadwraeth Pen Llŷn a’r Sarnau

“Be sy’n digwydd yw bod 'na fwy o gystadleuaeth i rywogaethau gwahanol – maen nhw am fod yn cystadlu dros yr un un bwyd ac o bosib fydd y llamhidydd wedyn yn cael ei wthio i’r gogledd tuag at y dyfroedd oerach wedyn”

Yn ôl arbenigwyr hinsawdd mae disgwyl y bydd sgil effeithiau’r El Niño yn parhau ar foroedd y byd am fisoedd eto ond mae’r tuedd yn dangos fod moroedd Cymru wedi bod yn poethi ers degawdau bellach.

Heb newid sylweddol felly mewn allyriadau carbon mae’r ymchwilwyr sy’n gyfrifol am warchod prosiectau fel yr un oddi ar arfordir Pen Llyn yn rhybuddio bod disgwyl y bydd arfordiroedd Cymru yn parhau i brofi sgil effeithiau’r cynnydd mewn tymheredd a’r newid yma yn brawf o sut mae newid hinsawdd ac El Niño sy’n digwydd ben arall y byd yn effeithio ar fywyd gwyllt nôl yma.

Prif lun: Seren Harris Swyddog Prosiect Morol ACA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.