Llywodraeth Cymru yn croesawu cyhoeddiad gan y Canghellor am ranbarth dinas Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cyhoeddiad gan y Canghellor y bydd Rhanbarth Dinas Caerdydd yn dod yn bartner strategol i’r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol.
Fe wnaeth John Healey amlinellu ei weledigaeth mewn araith ddydd Llun, cyn i Gyllideb Llywodraeth y DU gael ei chyhoeddi fis nesaf.
Nod y bartneriaeth yw helpu’r rhanbarth i ddatblygu prosiectau newydd, denu buddsoddiad a chreu swyddi.
Y rhanbarthau eraill sy’n dod yn bartneriaid strategol yw De Swydd Efrog, Rhanbarth Dinas Lerpwl a gogledd-ddwyrain Lloegr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cyhoeddiad yn “enghraifft bwerus o sut y gallwn greu twf gyda’n gilydd”.
“Drwy gysoni arbenigedd ac adnoddau llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Cyfoeth Genedlaethol, gallwn droi cynlluniau uchelgeisiol yn brosiectau y gellir eu cyflawni, denu buddsoddiad i Gymru a chreu’r amodau ar gyfer cynhyrchiant cryfach, swyddi gwell a ffyniant hirdymor,” meddai’r llefarydd.
Mae Rhanbarth Dinas Caerdydd yn cwmpasu rhan helaeth o dde-ddwyrain Cymru. Mae’n gorff rhanbarthol sy’n cynnwys y 10 cyngor yn yr ardal. Mae’r Fargen Ddinesig sy’n rhan o’i waith wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
‘Fawr ddim’
Yn ystod yr araith, fe wnaeth John Healey drafod “stori newydd”, gan ddweud bod yr economi wedi gwneud mwy na dim ond troi cornel.
Fe ddywedodd fod yr economi erbyn hyn yn wydn ac yn “barod i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o dechnolegau a syniadau newydd”.
Ond mae’r amgylchiadau economaidd yn heriol, gyda chostau benthyca Llywodraeth y DU wedi cyrraedd eu lefel uchaf ers 18 mlynedd. Mae rhyfel Iran hefyd yn cael effaith.
Mae economegwyr yn rhybuddio y gallai fod yn rhaid i Healey godi trethi neu dorri gwariant mewn rhai adrannau er mwyn diogelu sefyllfa ariannol y Llywodraeth.
Yn ôl y Ceidwadwyr, bydd cynlluniau Healey “yn gwneud fawr ddim i gysuro teuluoedd a busnesau gweithgar”.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud na fydd “ailgyhoeddi’r £150 miliwn” yn gwneud “unrhyw wahaniaeth i dwf economaidd” Prydain, tra bod Reform yn honni nad oes gan y Canghellor “unrhyw syniad sut i achub ein heconomi”.
