Gallai cwmni ynni sy’n eiddo i Gymru arwain at ‘lai o wrthwynebiad’

Adam Price a Peilonau

Byddai perchnogaeth leol ar brosiectau ynni yn arwain at lai o wrthwynebiad i ddatblygiadau, meddai gweinidog wrth lansio cynlluniau ar gyfer cwmni newydd.

Mae ymgynghoriad a lansiwyd ddydd Llun yn amlinellu cynigion ar gyfer un cwmni ynni glân cyhoeddus cenedlaethol sy’n eiddo i bobl Cymru, meddai Adam Price.

Byddai’r cwmni’n helpu i sicrhau bod mwy o’r manteision economaidd o adnoddau ynni Cymru yn aros o fewn y wlad, meddai’r Gweinidog dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.

“Mae yna dystiolaeth o wledydd eraill fel Denmarc a’r Iseldiroedd, lle mae yna gyfran uwch o berchnogaeth leol, fod y gwrthwynebiad yn llai,” meddai Adam Price wrth Radio Cymru.

“Mae pobl wedyn yn gweld y prosiectau yma yn rhywbeth sy’n cynnig budd uniongyrchol iddyn nhw yn hytrach na rhywbeth sy’n cael ei arosod arnyn nhw, heb fod elw i unrhyw un yn lleol.”

Dywedodd Adam Price y byddai’r ymgynghoriad yn parhau am dri mis, ond mai’r nod oedd sefydlu’r cwmni yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

Ychwanegodd: “Y nod yn y pen draw yw sicrhau bod Cymru fel gwledydd Sgandinafia sydd â chwmnïau ynni cenedlaethol sy’n eiddo i bobl eu gwledydd nhw.

“Mae’n bosib i ni greu cwmni cenedlaethol fydd yn y pen draw yn brif gwmni ynni i bobl Cymru a sicrhau bod y budd ’na yn aros lle ddylai fo fod.”

Ni fyddai’r cwmni’n disodli cyflenwyr ynni presennol nac yn gosod prisiau ynni cartrefi yn uniongyrchol, meddai.

Fodd bynnag, gallai cynyddu perchnogaeth Gymreig ar brosiectau ynni helpu i leihau costau ynni dros amser a sicrhau bod mwy o arian yn cael ei ailfuddsoddi yng nghymunedau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, meddai Adam Price.

“Mae Cymru ar drothwy ail chwyldro ynni a’r tro hwn rydym am sicrhau ein bod yn cadw mwy o’r manteision yma,” meddai Adam Price.

“Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â sut y gallwn adeiladu sector ynni cryfach yng Nghymru, cefnogi perchnogaeth leol a chreu gwerth parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n ymwneud ag ynni rhatach a glanach — o Gymru, i Gymru.

“Rydym am glywed gan bobl, cymunedau, busnesau a sefydliadau ledled Cymru ynghylch sut y dylai’r cwmni hwn weithio a beth y dylai ei gyflawni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.