Heb ganiatâd yr ysgol’: Siom wedi i goeden Nadolig yn Sir Gâr gael ei thorri
Mae staff a llywodraethwyr ysgol yn Sir Gaerfyrddin wedi dweud nad oedden nhw’n gwybod y byddai coeden Nadolig y pentref yn cael ei thorri, ond mae’r cyngor yn dweud bod hynny’n rhan o raglen o waith y cytunwyd arni.
Cafodd y goeden wrth fynedfa Ysgol Bancyfelin ei thorri nos Fercher 12 Awst, yn ystod gwaith i wella’r fynedfa i’r ysgol.
Cafodd ei phlannu yn 2010 gan Graham Edwards a Bruce Wallace.
Dywedodd Bruce Wallace, a oedd yn aelod o Ymddiriedolaeth Addysg a Chymuned Bancyfelin ar y pryd, iddo blannu’r goeden gydag Ysgol Bancyfelin yn cytuno ar hynny.
Dros y blynyddoedd, roedd wedi tyfu’n ddigon mawr i fod yn ganolbwynt goleuadau Nadolig y pentref a'r canu carolau blynyddol.
‘Ni rhoddom ganiatad’
Mewn datganiad a gafodd ei rannu'n gyhoeddus, dywedodd staff a llywodraethwyr Ysgol Bancyfelin nad oedden nhw wedi cael gwybod y byddai’r goeden yn cael ei thorri.
Dywedodd y datganiad: “Ar ran pob aelod o Staff a Llywodraethwyr Ysgol Bancyfelin, doeddem ddim yn ymwybodol ac yn llwyr anghytuno gyda thorri y goeden o flaen yr ysgol.
“Ni roddom ganiatad i hyn ddigwydd.”
Mewn diweddariad arall, dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr Rhian Bowen fod Adran Adeiladu Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymddiheuro.
Yn ôl y neges, cafodd y goeden ei thorri er mwyn gwella’r fynedfa a ffens derfyn yr ysgol, heb i’w phwysigrwydd i’r pentref gael ei ystyried.
Dywedodd hefyd fod addewid wedi’i wneud i blannu coeden newydd cyn y Nadolig.
Dywedodd Bruce Wallace ei fod wedi cael gwybod mai oherwydd amryfusedd y cafodd y goeden ei thorri, a bod y cyngor wedi cytuno i ddarparu un newydd cyn gynted â phosib.
‘Rhaglen waith y cytunwyd arni’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin wrth Newyddion S4C: “Cafodd y goeden wrth fynedfa Ysgol Bancyfelin ei thorri fel rhan o raglen waith y cytunwyd arni i wneud gwelliannau angenrheidiol i’r fynedfa, er mwyn diogelu disgyblion ac eraill wrth iddynt fynd i mewn i dir yr ysgol.
“Rydym yn gweithio gyda’r ysgol a’r gymuned i ddod o hyd i ffordd addas ymlaen.”
Dyma’r tro cyntaf i’r cyngor ddisgrifio’r gwaith yn gyhoeddus fel rhaglen y cytunwyd arni.
Nid yw’r cyngor wedi nodi pwy oedd wedi cytuno ar y rhaglen waith. Mae staff a llywodraethwyr yr ysgol yn dweud nad oedden nhw’n ymwybodol y byddai’r goeden yn cael ei thorri ac na wnaethon nhw roi caniatâd.
Er bod y negeseuon cyhoeddus yn dweud bod coeden newydd wedi’i haddo cyn y Nadolig, nid oedd ymateb y cyngor i Newyddion S4C yn cadarnhau amserlen ar gyfer plannu un arall.