Arbenigwr canu gwerin Cymru, Roy Saer, wedi marw'n 90 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r arbenigwr ar ganu gwerin Cymru, D. Roy Saer, a fu farw’n 90 oed.
Yn enedigol o Hebron yn Sir Gaerfyrddin, roedd Mr Saer yn awdurdod ar hanes y gân werin, ac yn awdur ar nifer o lyfrau ar y traddodiad.
Roedd ganddo gysylltiad hirhoedlog â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn ogystal ag Amgueddfa Werin Sain Ffagan, ble ddechreuodd weithio yn y 1960au.
Chwaraeodd ran allweddol yn adeiladu ac ehangu casgliad yr amgueddfa o ganeuon traddodiadol, gan deithio drwy Gymru i gasglu a chofnodi hen alawon.
Yn 2019 cafodd ei anrhydeddu am ei gyfraniad oes yn noson Gwobrau Gwerin Cymru.
Ymhlith y rheiny sydd wedi rhoi teyrngedau i Mr Saer mae’r archifydd, ymgyrchydd a darlledwraig Sara Huws, a ddywedodd ar Instagram ei bod wedi bod yn “fraint cael ei adnabod a’i ddathlu.”
“Pan oeddwn i'n guradur ifanc, yn gofalu dros-dro am y casgliad cerdd yn Sain Ffagan, byddai'n galw mewn am sgwrs ffeind ac yn fy nghyfeirio at ryw offeryn neu recordiad neu ffeil brau fyddai wastad yn dod â dileit,” meddai.
“Roedd yn hael ei arbenigedd ac yn hynod o gwrtais yn gadael i finne gymryd rhan a dysgu wrth i fi fynd, ac yntau wedi treulio ei yrfa gyfan yn adeiladu'r casgliad.”
Dathlodd Mr Saer ei benblwydd yn 90 yn gynharach eleni ac fe gynhaliwyd sesiwn arbennig yn deyrnged iddo ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.