Galw am ailystyried cynlluniau i orfodi teithwyr fferi i ddangos pasbort rhwng Cymru ac Iwerddon

Newyddion S4C

Galw am ailystyried cynlluniau i orfodi teithwyr fferi i ddangos pasbort rhwng Cymru ac Iwerddon

Mae galwadau i ailystyried cynlluniau fyddai'n golygu bod yn rhaid i deithwyr fferi rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon gyflwyno pasbort cyfredol. 

Ers blynyddoedd dim ond prawf o ddinasyddiaeth Brydeinig fel trwydded yrru y mae teithwyr wedi gorfod darparu.

Ond yn ôl cwmnïau Irish Ferries a Stena Line, sy’n cynnal gwasanaethau rhwng porthladdoedd Cymru ac Iwerddon, mae nhw’n newid eu polisïau er mwyn gwella y data sydd ar gael iddyn nhw eu darparu i’r llywodraeth.

Yn ôl y Swyddfa Gartref does dim newid mewn deddfwriaeth gwlad a chwmnïau unigol sydd wedi gwneud y penderfyniad.

Gan fod y Deyrnas Unedig a Chymru yn rhan o’r Ardal Deithio Gyffredin (Common Travel Area) mae cytundeb rhwng Llywodraeth Prydain ac Iwerddon nad oes angen pasbort cyfredol er mwyn teithio rhwng y ddwy wlad.

Mae’r cytundeb yna’n parhau ond yn ôl cwmnïau Stena Line ac Irish Ferries sy’n cynnal gwasanaethau fferi, mi fydd nhw nawr yn ei gwneud hi’n orfodol i ddangos pasbort wrth hwylio.

Image
Irish Ferries yw un o'r ddau cwmni sydd wedi cyflwyno'r cynllun
Irish Ferries yw un o'r ddau cwmni sydd wedi cyflwyno'r cynllun

Yn ôl y cwmnïau mae nhw’n gwneud hynny er mwyn “cydymffurfio efo gofynion Llu’r Ffiniau wrth gryfhau cywirdeb ac uniondeb data teithwyr cyn teithio”.

Daeth y cyhoeddiad gan y cwmnïau ar y 26 Awst, gyda’r drefn newydd i ddod i rym ar y 28 Medi gan arwain at alwadau am bwyllo.

“Dwi ‘di ‘sgwennu at y Swyddfa Gartref a dwi hefyd mewn cyswllt efo’r rhai sy’n darparu’r gwasanaethau," meddai Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi wrth Newyddion S4C.

“[Dwi’n gwneud hynny] er mwyn gweld oes ‘na unrhyw gyfle fedrwn ni wneud rŵan er mwyn ail-edrych ar hyn.

“Y pethau pwysicaf y gallwn ni wneud rŵan ydi dal ar, a pheidio â dod a hyn i fodolaeth ar ddiwedd Medi a rhoi cyfle i gwmnïau addasu a chael y sgwrs, os oes na unrhyw fath arall o ID allai fod yn dderbyniol i’r teithiau hyn”.

Yn ôl data y cyfrifiad yn 2021, mae gan 86.5% (51.6 miliwn) o bobl y Deyrnas Unedig pasbort ac 13.5% heb (8 miliwn).

'Rhwystredig'

Mae’r penderfyniad wedi arwain at gwynion hefyd gan gwmnïau ac unigolion sy’n arwain teithiau.

Arwel Roberts o Ruddlan yw cydlynydd yr Ŵyl Ban Geltaidd yng Nghymru ac mae’n trefnu bws draw i Iwerddon bob blwyddyn.

“[Dwi] dipyn bach yn rwystredig, does dim digon o rybudd yn fy marn i," meddai.

“Pam bod y cwmnïau hyn am wneud hynny rŵan?

“O’r blaen oedda chi jest yn dangos eich trwydded yrru ac oni’n dweud wrth y bobl, peidiwch a phoeni.

“Pam na fedrwn i wneud hynny? Pam bod yn rhaid gwneud hyn rŵan?

“Bydd yn rhaid imi gysylltu efo pawb sydd eisiau dod draw i’r ŵyl rŵan, y corau ac ati. Fydd o’n lot o waith."

Image
Arwel Roberts
Mae sawl cor a band o Gymru yn cystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn flynyddol.

Ategu’r pryder yna mae’r flogiwr a dylanwadwr gwyliau Anna Wyn o Gaernarfon.

“Mae’r newid ‘di dod yn ofnadwy o sydyn o fod angen pasbort," meddai.

“Dwi’n meddwl dyna ‘di un o’r pethau mwyaf, mae’n gallu cymryd hyd at dair wythnos i basbort gyrraedd mewn ffordd.

“A hefyd y gost, dros £100 i oedolion, dwi’n hun wedi bod i Iwerddon am y diwrnod ac wedi cael diwrnod grêt yn mynd ar y fferi a phe bawn i’n gorfod talu am basbort newydd ar ben hynny, dwi meddwl ‘sa hynny wedi gwneud imi feddwl ddwywaith cyn mynd."

Yn ôl cwmni Stena Line dydyn nhw ddim yn darogan y bydd y newid yn arwain at unrhyw oedi wrth i deithwyr gyrraedd porthladdoedd.

Mewn datganiad dywedodd y Swyddfa Gartref nad oes “unrhyw newid wedi’w wneud o ran gofynion i bobl sy’n teithio i’r DU”.

“Mae gofyn am basbort er mwyn darparu’r wybodaeth hwn yn benderfyniad a wnaed gan y cwmnïau fferi sy’n cynnal gwasanaethau a theithiau rhyngwladol rhwng Iwerddon a Phrydain," medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.