Gwasanaeth tacsis hunanyrru cyntaf y DU yn cael ei lansio yn Llundain
Mae gwasanaeth tacsis hunanyrru cyntaf y DU wedi cael ei lansio yn Llundain ddydd Iau, gyda defnyddwyr Uber yn gallu cael eu paru ag un o’r cerbydau am y tro cyntaf.
Mae Uber a’r cwmni technoleg Prydeinig Wayve wedi lansio’r gwasanaeth gan ddefnyddio ceir trydan Ford Mustang Mach-E.
Gall cwsmeriaid sy’n archebu UberX, Uber Electric neu Uber Comfort gael eu paru ag un o’r ceir heb dalu cost ychwanegol. Bydd modd iddynt dderbyn y daith neu ofyn am gar arferol.
Er bod y ceir yn gyrru eu hunain, bydd gyrrwr trwyddedig wrth y llyw i fonitro pob taith ac ymyrryd os oes angen.
Y gwasanaeth yn Llundain
Dim ond 15 o geir Wayve sydd wedi cael trwydded hyd yma. Byddant yn gallu cludo teithwyr i unrhyw le yn Llundain ar wahân i feysydd awyr.
Bydd teithwyr yn gallu datgloi’r drysau a dechrau’r daith drwy ap Uber. Bydd sgrin yn y car hefyd yn dangos y llwybr y mae’r cerbyd yn bwriadu ei ddilyn.
Mae Wayve, sydd wedi ei sefydlu ac sydd â’i bencadlys yn Llundain, wedi bod yn profi’r dechnoleg ar ffyrdd y brifddinas ers 2018.
Yn ôl y cwmni, mae ei system deallusrwydd artiffisial yn dysgu drwy brofiad ac yn gallu addasu i ffyrdd, tywydd a cherbydau gwahanol.
Bydd angen cymeradwyaeth bellach cyn y gall y cwmni gynnig teithiau heb yrrwr dynol yn y car.
‘Rili cŵl'
Mae Hannah Taylor o Gaerdydd eisoes wedi defnyddio tacsi cwbl ddi-yrrwr drwy ap Uber yn Austin, Texas, UDA.
Car gan Waymo oedd hwnnw, sef cwmni gwahanol i Wayve.
“Oedd e’n freaky y tro cynta jyst achos ti yn y car, mae e’n dreifio ac mae ceir eraill o gwmpas ti hefyd,” meddai.
“Ond wedyn, ar ôl cwpwl o trips ti fel, ‘Mae hwn actually rili cŵl.’ Ti’n gallu cal sgwrs dy hunan, gwrando ar miwsig dy hunan. Ie ma’n neis.”
Dywedodd nad oedd wedi teimlo ei bod mewn perygl yn ystod y teithiau, a bod botwm ar sgrin y car i alw am gymorth pe bai problem.
Ond er yr hoffai weld y dechnoleg yn dod i Gymru, roedd yn amau a fyddai’n addas i’r ffyrdd yma.
“Fi’n credu bod ffyrdd Caerdydd hyd yn oed yn rhy gymhleth i’r Waymos," meddai.
"Mae’n lot mwy cymhleth na blocs mewn dinasoedd yn America a wedyn hefyd yng Nghymru bydd rhaid ti ddelio gyda defaid yn y ffordd!”
Pryderon
Mae arolwg gan GoCompare ym mis Ionawr o 2,000 o oedolion ledled y DU yn awgrymu bod cryn bryder ynglŷn â’r dechnoleg.
Dywedodd 46% na fyddent yn teimlo’n ddiogel yn defnyddio Uber heb yrrwr, tra bod 38% yn poeni y gallai’r car fynd o’i le neu eu cloi y tu mewn.
Dywedodd 32% na fyddent yn defnyddio’r gwasanaeth gan nad ydynt am weld gyrwyr dynol yn cael eu disodli.
Dim ond 12% ddywedodd eu bod yn gyffrous am ddefnyddio tacsi hunanyrru, a dywedodd 6% nad oedd ganddynt unrhyw bryderon am ddiogelwch.
Roedd gwahaniaeth hefyd rhwng ymatebion dynion a menywod. Dywedodd 54% o fenywod na fyddent yn teimlo’n ddiogel, o’i gymharu â 39% o ddynion.
Daw’r lansiad ddiwrnod ar ôl i Uber gyhoeddi ei fod yn torri mwy na 3,000 o swyddi fel rhan o ailstrwythuro byd-eang.
Dywedodd y cwmni y byddai’r newidiadau yn rhyddhau arian i’w ailfuddsoddi mewn twf ac arloesi, wrth iddo gynyddu ei fuddsoddiad mewn partneriaethau cerbydau ymreolaethol.
Nid yw Uber wedi dweud mai datblygiad tacsis hunanyrru sydd wedi arwain at y swyddi sy’n cael eu torri.