Gorchymyn Nathan Gill i werthu eiddo ym Môn neu wynebu rhagor o garchar

Nathan Gill

Mae cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru wedi cael gorchymyn i dalu mwy na £22,500 ar ôl derbyn llwgrwobrwyon i wneud datganiadau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop.

Cafodd Gill, 53 oed, o Ynys Môn, chwe mis i werthu ei eiddo rhent ym Môn er mwyn talu'r arian i'r trysorlys, neu wynebu naw mis yn ychwanegol yn y carchar.

Mae eisoes yn y carchar yn wedi iddo dderbyn dedfryd o 10 mlynedd a hanner ar ôl pledio'n euog i wyth cyhuddiad o dderbyn llygrwobrwyon rhwng 6 Rhagfyr 2018 ac 18 Gorffennaf 2019.

Nid oedd cais i Gill fod yn bresennol yn yr Old Bailey ddydd Iau ar gyfer gwrandawiad atafaelu o flaen y Barnwr Richard Marks KC.

Pennodd y barnwr fod cyfanswm yr arian a gafwyd yn anghyfreithlon yn £22,592.41, a gorchmynnodd iddo dalu'r swm hwnnw o fewn chwe mis neu wynebu dedfryd o garchar o naw mis.

Dywedodd Clare Ashcroft, sy'n cynrychioli Gill, wrth y llys y byddai angen amser ar Gill i werthu ei eiddo rhent er mwyn gwneud y taliad.

Dywedodd wrth y llys: “Mae angen gwerthu’r eiddo. Mae rhybudd wedi’i roi i’r tenantiaid. Nes bydd y tenantiaid hynny wedi gadael, ni ellir rhoi’r eiddo ar y farchnad.”

Y gred yw bod yr eiddo rhent a chartref teuluol Gill ar Ynys Môn.

Dedfryd

Ym mis Tachwedd y llynedd, Gill oedd y gwleidydd Prydeinig cyntaf i gael ei ddedfrydu o dan Ddeddf Lwgrwobrwyo 2010.

Ar adeg y troseddau, roedd Gill yn aelod o Senedd Ewrop, ar ôl cael ei ethol yn wreiddiol ar ran plaid Ukip.

Roedd ei weithgareddau’n cynnwys gwneud datganiadau o blaid Rwsia am ddigwyddiadau yn Wcráin yn Senedd Ewrop ac mewn erthyglau barn i wasanaethau newyddion fel 112 Ukraine.

Y person a drefnodd y llwgrwobrwyo oedd Oleg Voloshyn, 44 oed, cyn-aelod seneddol Wcreinaidd oedd o blaid Rwsia, a oedd ynghyd â’i wraig, â chysylltiadau â 112 Ukraine.

Roedd y sianel deledu yn eiddo i Victor Medvedchuk, 71 oed, dyn busnes Wcreinaidd cyfoethog oedd o blaid Rwsia; ac yn gefnogwr Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Fo hefyd oedd y ffynhonnell wreiddiol ar gyfer y ceisiadau a’r arian a dderbyniwyd gan Gill.

Maes awyr

Daeth troseddau Gill i'r amlwg ar ôl iddo gael ei atal ym maes awyr Manceinion ar 13 Medi 2021 wrth iddo geisio teithio i Rwsia.

Cafodd ei ffôn symudol ei archwilio a daethpwyd o hyd i negeseuon rhyngddo ef a Voloshyn.

Roedd negeseuon WhatsApp rhyngddynt yn cynnwys cyfeiriadau at "anrhegion Nadolig sydd wedi eu gaddo", "cardiau post" a "5K" - cyfeiriad at daliadau, yn ôl y dystiolaeth ar y pryd.

Arweiniodd Gill ymgyrch etholiad Senedd Cymru 2021 ar ran Reform UK, ond nid yw bellach yn aelod o'r blaid.

'Cwmpawd moesol'

Wrth ddyfarnu'r gosb fis Tachwedd diwethaf, dywedodd y Barnwr Cheema-Grubb wrth Gill ei fod wedi gadael i arian lygru ei "gwmpawd moesol" a bod hynny'n gyfystyr â "brad difrifol o'r ymddiriedaeth a roddwyd ynoch gan yr etholwyr".

Dywedodd wrth Gill: "Mae gan eich camymddygiad ganlyniadau sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i anrhydedd personol, sydd bellach wedi'i ddifrodi'n anadferadwy. Mae'n erydu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd ei hun."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.