Gwynedd: Ymchwilio i fandaliaeth a llosgi bwriadol mewn safle UNESCO
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno mesurau ychwanegol i “ddiogelu” safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Ngwynedd yn dilyn adroddiadau o ddifrod troseddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a llosgi bwriadol yno.
Dywedodd y llu bod difrod wedi’i wneud i adeiladau llechi hanesyddol, ffenestri wedi’u torri a thanau yn Chwarel Dinorwig.
Mae swyddogion yn gweithio gyda thirfeddianwyr i osod camerâu cylch cyfyng yn yr ardal, tra bod swyddogion yn cynnal patrolau rheoliadd a rhai cudd “gyda'r nod o atal a chanfod troseddau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae difrod i strwythurau ac henebion hanesyddol yn cael effaith hirdymor a gall arwain at golli nodweddion treftadaeth pwysig yn barhaol.
“Oherwydd natur y safle, mae'n cael amddiffyniad ychwanegol yn ôl y gyfraith, a gall y rhai sydd yn gyfrifol am gyflawni troseddau yno ddisgwyl cael eu trin yn gadarn.
“Mae'r safle yn cynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, sy'n golygu ei fod yn ased treftadaeth warchodedig o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol.
“Bydd Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr ac asiantaethau partneriaeth i ddiogelu'r ardal."