Llywodraeth Cymru'n gobeithio dod â rhestrau aros i lawr i lefelau cyn y pandemig

Ward ysbyty / Mabon ap Gwynfor

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo rhoi terfyn ar arosiadau o fwy na dwy flynedd am driniaeth a dod â rhestr aros gyffredinol GIG Cymru i lawr i lefelau cyn y pandemig erbyn diwedd tymor presennol y Senedd.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau i’r ffordd y bydd byrddau iechyd yn darparu gofal wedi’i gynllunio, gan gynnwys rhagor o lawdriniaethau ar benwythnosau a chydweithio ar draws ffiniau byrddau iechyd.

Daw'r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i gadeirydd pwyllgor Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain, y BMA, ddweud wrth raglen Newyddion S4C fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn "cyflwr o argyfwng."

Yn ystod ei gyfweliad, dywedodd Dr Deiniol Jones ddydd Mercher fod "camreoli" wedi bod ar y gwasanaeth gan wleidyddion yn y gorffennol, gan arwain at yr argyfwng presennol.

“Mae’r sefyllfa hyn o bryd yn anodd iawn, a ni’n talu am benderfyniadau yn y gorffennol hefyd,” meddai.

Image
Dr Deiniol Jones
Cadeirydd Pwyllgor Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain, Dr Deiniol Jones

Targedu

Wrth gyhoeddi eu hamcanion ddydd Iau, dywedodd y llywodraeth y byddai arbenigeddau lle mae’r amseroedd aros hiraf yn cael eu targedu, "tra bydd safonau newydd yn sicrhau bod y rhai sydd wedi bod yn aros hiraf yn cael eu trin nesaf."

Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan £145m ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin. 

O’r swm hwnnw, bydd £100m yn cael ei ddefnyddio i leihau amseroedd aros, £25m ar ganolfannau llawfeddygol a diagnostig newydd ac £20m ar waith cynnal a chadw ystad y GIG.

Rhestr aros wedi tyfu eto

Mae’r ffigurau diweddaraf sydd ar gael, sef amcangyfrifon dros dro ar gyfer mis Gorffennaf, yn awgrymu bod tua 709,700 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. 

Roedd tua 4,700 ohonynt wedi bod yn aros am fwy na dwy flynedd.

Mae’r ffigurau swyddogol diweddaraf, ar gyfer mis Mehefin, yn dangos bod bron i 698,400 o lwybrau yn aros, cynnydd o tua 8,700 mewn mis. 

Roedd bron i 4,100 ohonynt wedi bod yn aros am fwy na dwy flynedd, 94% yn is na’r uchafbwynt ym mis Mawrth 2022.

Mae llwybr claf yn cofnodi’r daith o atgyfeirio claf i’r ysbyty hyd nes bod triniaeth yn dechrau. Nid yw nifer y llwybrau felly’n gyfystyr â nifer y bobl sy’n aros, gan y gall un claf fod ar fwy nag un llwybr.

Roedd gwybodaeth reoli ar gyfer mis Mehefin yn awgrymu bod tua 547,500 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth.

Er cymhariaeth, roedd 461,809 o lwybrau yn aros ym mis Chwefror 2020, cyn i’r pandemig effeithio ar wasanaethau’r GIG.

Newid trefniadau apwyntiadau

O dan y cynlluniau newydd, bydd atgyfeiriadau’n cael eu hadolygu’n gynharach mewn ymgais i sicrhau bod cleifion yn cael y cyngor, y profion neu’r driniaeth gywir y tro cyntaf medd y llywodraeth.

Bydd y ffordd y caiff apwyntiadau dilynol eu trefnu hefyd yn newid. 

Yn hytrach na mynd i apwyntiadau rheolaidd nad oes eu hangen o bosibl, bydd rhai cleifion yn cysylltu â’r gwasanaeth pan fydd angen cymorth arnynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd hyn yn rhyddhau degau o filoedd o apwyntiadau ar gyfer gwaith clinigol arall, gan gynnwys gweld cleifion sy’n aros am eu hapwyntiad cyntaf.

Bydd buddsoddi mewn profion, sganiau ac offer digidol hefyd yn ceisio lleihau’r amser rhwng atgyfeirio claf a rhoi diagnosis.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: “Nid yw aros dwy flynedd am ofal a gynlluniwyd yn dderbyniol.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn ddibynnol ar fod byrddau iechyd yn newid y ffordd y maen nhw’n gweithio, yn barhaol felly.

Image
Mabon ap Gwynfor
Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor

“Dyma fydd yn sicrhau nad yw’r cynnydd dw i’n disgwyl ei weld yn llithro’n ôl, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Dyna’r gwahaniaeth rhwng datrysiad tymor byr a newid parhaol.”

‘Dim digon o staff’

Galwodd Dr Jones am ragor o fuddsoddiad mewn meddygon teulu, gofal yn y gymuned ac iechyd y cyhoedd.

“Ni’n angen dechrau buddsoddi yn GP a’r gymuned,” meddai.

“Ni’n angen cynllun gweithlu priodol yn NHS hefyd, achos does dim digon o staff ar hyn o bryd.”

Wrth drafod y posibilrwydd o ragor o streiciau gan feddygon, dywedodd fod hynny’n bosib pe na bai’r sefyllfa’n gwella.

“Ni ddim yn moyn streicio. Ni’n moyn helpu ein cleifion,” meddai.

Dywedodd hefyd fod y BMA eisiau gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru a’i fod eisoes wedi cael trafodaethau â hi.

“Ni wedi bod yn siarad tipyn hyd yn hyn a gobeithio byddwn ni’n cwrdd yn fuan,” meddai.

Targedau blaenorol

Nid dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru osod targed i ddileu’r arosiadau hiraf.

Roedd cynllun adfer a gyhoeddwyd yn 2022 pan roedd Llafur mewn grym yn gosod targed i ddileu arosiadau o fwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023.

Cafodd y dyddiad hwnnw ei ymestyn i fis Mawrth 2024, ond ni chyrhaeddwyd y naill darged na’r llall.

Canfu Archwilio Cymru fod byrddau iechyd wedi derbyn £547m ychwanegol rhwng 2022–23 a 2024–25 i leihau’r arosiadau hiraf, ond bod llawer o’r arian wedi’i ddefnyddio ar fesurau tymor byr drud.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.