Undeb Rygbi Cymru'n 'lle mwy diogel i weithio ynddo' wedi adolygiad o'r gweithle

Undeb Rygbi Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dod yn 'lle mwy diogel i weithio' ar ôl gwneud cyfres o welliannau, wedi i adroddiad ganfod fod agweddau gwenwynig yn bodoli yno yn flaenorol.

Llofnododd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y cytundeb gyda'r Undeb ym mis Tachwedd 2024, ar ôl i adolygiad annibynnol yn 2023 ganfod bod agweddau ar ddiwylliant y gweithle yn 'wenwynig' ac nad oedd rhywiaeth, hiliaeth na homoffobia yn cael eu herio'n ddigonol.

Roedd y cytundeb cyfreithiol rhwng yr Undeb a'r Comisiwn yn nodi'r camau yr oedd angen i Undeb Rygbi Cymru (URC) eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd a gwella’r modd y caiff gweithwyr eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu ac aflonyddu.

'Cynnydd'

Ar ôl monitro'r gwelliannau a wnaed gan URC, mae'r Comisiwn bellach wedi asesu bod digon o gynnydd wedi'i wneud i gwblhau'r cytundeb.

Dywedodd Mary-Ann Stephenson, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: "Fe wnaethon ni lofnodi'r cytundeb hwn gydag Undeb Rygbi Cymru i fynd i'r afael â diwylliant yn y gweithle a oedd yn 'wenwynig' i nifer sylweddol o weithwyr, yn ôl adolygiad annibynnol.

"Ers hynny, mae URC wedi gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod y sefydliad yn lle mwy diogel i weithio. Bellach mae gweithdrefnau gwell ar waith i amddiffyn staff rhag aflonyddu a gwahaniaethu, a ffyrdd llawer mwy effeithiol i staff godi pryderon yn y lle cyntaf.

"Yn ôl y gyfraith, rhaid i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i amddiffyn eu staff rhag aflonyddu rhywiol a gwahaniaethu. Ni fyddwn yn oedi cyn gweithredu os gwelir sefydliadau yn methu â chynnal eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb."

Polisïau

Er mwyn cwblhau'r cynllun gweithredu, mae Undeb Rygbi Cymru wedi gweithio gyda chynghorydd allanol "i wella polisïau yn y gweithle", a chyflwyno "system safonol i gofnodi cwynion" am wahaniaethu ac aflonyddu.

Ymhlith y camau eraill, mae'r Undeb wedi cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar aflonyddu rhywiol ar gyfer pob rheolwr, gyda hyfforddiant arbenigol ar gyfer rheolwyr sy'n gyfrifol am ymdrin â chwynion.

Mae grŵp cynghori annibynnol hefyd wedi ei benodi "i oruchwylio a darparu arbenigedd ar gydraddoldeb a chynhwysiant."

'Gwerthoedd'

Wrth ymateb i'r newidiadau, dywedodd Prif Swyddog Pobl Undeb Rygbi Cymru, Lydia Stirling: "Ers yr adolygiad annibynnol yn 2023, ac yn wir cyn iddo ddod i'w gasgliadau a gwneud ei argymhellion, rydym wedi cyflwyno cyfres o fesurau, protocolau a chanllawiau rhagweithiol i wella ein diwylliant a sicrhau bod ein gwerthoedd yn cael eu cynnal trwy’r busnes.

"Rydym wedi gweithio'n galed i weithredu pob un o argymhellion yr adolygiad annibynnol a'r cytundeb EHRC ac rydym yn hynod ddiolchgar i EHRC am eu canllawiau a'u cyngor yn ystod y cyfnod hwn.

"Mae'n rhaid i ni nawr adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes wedi'i wneud a pharhau i fodloni ein disgwyliadau ein hunain ar gyfer diwylliant cadarnhaol yn y gweithle."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.