Darnau 50c arbennig i ddathlu pen-blwydd Star Trek yn 60 oed
Mae dau ddarn 50c newydd wedi cael eu rhyddhau i ddathlu 60 mlynedd ers i'r rhaglen ffuglen-wyddonol Star Trek ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf.
Mae un o ddyluniadau’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn cynnwys cyfarchiad enwog y Vulcan, ynghyd â’r geiriau “Live long and prosper” a “Star Trek 60”.
Mae’r ail ddyluniad yn dangos pedair llong ofod o wahanol gyfnodau yn hanes y gyfres.
Bydd rhai o’r darnau ar gael mewn lliw, i adlewyrchu gwisgoedd llachar y cymeriadau a’r datblygiadau mewn teledu lliw yn ystod y 1960au, meddai’r Bathdy.
Dywedodd Tim Mulhall, pennaeth casgliadau i ffans gyda'r Bathdy Brenhinol: “Mae’n fraint i’r Bathdy Brenhinol 'fynd yn eofn' i ddathlu 60 mlynedd o Star Trek gyda chofrodd sydd allan o’r byd hwn.
“Mae’r ddau ddarn 50c casgladwy wedi’u dylunio ar gyfer cefnogwyr sydd wedi tyfu i fyny gyda’r gyfres ac sydd eisiau darn o’r hanes hwnnw i’w drysori.”
Dywedodd Ruth Henriquez o Paramount fod gan Star Trek “un o’r cymunedau casglu mwyaf ymroddedig yn y byd”, a bod y darnau’n deyrnged i 60 mlynedd o’r gyfres.
Bydd y darnau ar werth o 09:00 ddydd Iau, gyda’r prisiau’n dechrau o £19.95.
Bydd darn cyfarchiad y Vulcan hefyd ar gael ar ei ben ei hun, tra bydd y darn sy’n cynnwys y llongau gofod ar gael yn unigol o fis Tachwedd.