BAFTA Cymru: Pwy sydd wedi derbyn enwebiad?
Mae enwebiadau BAFTA Cymru eleni wedi eu cyhoeddi, gyda’r ffilm nodwedd Madfabulous yn derbyn chwe enwebiad.
Mae 17 o gategorïau ar draws y sectorau crefft, perfformio a chynhyrchu.
Mae Stori’r Iaith, sef rhaglen ar S4C lle mae wynebau adnabyddus yn mynd ar daith bersonol i olrhain hanes y Gymraeg, wedi derbyn tri enwebiad.
Mae tri enwebiad i’r gyfres ddrama Under Salt Marsh hefyd, tra bod The Guest yn derbyn pum enwebiad.
Ymhlith y rhai sy'n cael dau enwebiad mae'r ddrama Gymraeg Bariau, y rhaglen ddogfen Y Crwydryn a'r gyfres ddrama Y Golau: Dŵr.
Ymhlith y rhai sy’n cael eu henwebu am y tro cyntaf mae’r actores Buddug Povey yn y categori Actores Orau am ei rôl yn Rownd a Rownd, a Sian Reese-Williams am ei rôl yn Power: The Downfall of Huw Edwards.
Mae’r gyflwynwraig Sian Eleri hefyd yn cael ei henwebu am y tro cyntaf am Keep the World Away – Finding Gwen John, yn ogystal â’r awduron Claire Oakley am Under Salt Marsh a Lisa Baker am Madfabulous.
Tom Cullen yw un o’r rhai sy’n cael ei enwebu am yr Actor Gorau, a hynny am y tro cyntaf, am ei rôl yn Trespasses. Ymhlith yr actorion eraill yn y categori mae Matthew Rhys am ei rôl yn The Beast in Me.
Dyma’r degfed enwebiad BAFTA i Eve Myles, sydd wedi’i henwebu am yr Actores Orau am The Guest. Mae Gabrielle Creevy hefyd wedi’i henwebu am yr Actores Orau am The Guest.
Mae’r cyfarwyddwyr Euros Lyn a Gareth Bryn ill dau yn derbyn eu nawfed enwebiad am Gyfarwyddwr Gorau, Euros Lyn am Wayward a Gareth Bryn am Karen Pirie.
Yn y categori Ffilm Nodwedd/Deledu, aelodau BAFTA oedd yn penderfynu ar y rhestr hir cyn i’r rheithgor gynnal trafodaethau i ddewis yr enwebeion a’r enillydd.
Dywedodd Lee Walters, cadeirydd BAFTA Cymru, fod “pob enwebiad yn dyst i greadigrwydd, sgiliau ac ymroddiad y bobl sy’n gweithio ar draws diwydiannau sgrîn Cymru, o flaen y camerâu a thu ôl iddyn nhw.
“Mae ystod ac ansawdd yr enwebiadau eleni yn adlewyrchu sector sy’n parhau i dyfu o ran hyder, sy’n adrodd straeon nodedig sy’n cysylltu â chynulleidfaoedd yma yng Nghymru a ledled y byd.
“Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn gyfle i ddathlu’r rhagoriaeth yna, cydnabod y doniau anhygoel yn ein diwydiant, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o storïwyr o Gymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu gyda’r holl enwebeion fis nesa.”
Y cyflwynydd radio a theledu Owain Wyn Evans sy’n dychwelyd am y trydydd tro i gyflwyno’r seremoni. Bydd y seremoni’n cael ei chynnal yng nghanolfan ICC Cymru, Casnewydd, nos Sul 4 Hydref.