Adeiladu cannoedd o gelloedd ychwanegol yng ngharchardai Cymru a Lloegr
Bydd Llywodraeth y DU yn cyflymu’r gwaith o adeiladu cannoedd o gelloedd ychwanegol yng ngharchardai Cymru a Lloegr drwy fuddsoddi £110 miliwn.
Fe fydd yn cynnwys troi mannau gwag mewn carchardai yn gelloedd newydd, meddai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder.
Bydd Alex Norris yn cyflwyno cynlluniau i adeiladu lleoedd newydd yn gynt, fel rhan o ymdrechion y Llywodraeth i fynd i’r afael â gorlenwi mewn carchardai, ddydd Mawrth.
Bydd hefyd yn rhoi manylion i ASau am gynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar sydd wedi’i lunio i ddelio â’r gorlewni mewn carchardai.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Mr Norris bod y llywodraeth “o ddifrif am drwsio’r system garchardai ddiffygiol y gwnaethon ni ei hetifeddu”.
“Dyna pam rydyn ni eisoes wedi darparu mwy na 3,200 o leoedd mewn carchardai mewn dwy flynedd yn unig,” meddai.
“Rydyn ni nawr yn buddsoddi i greu hyd yn oed mwy. Bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau’r gwaith adeiladu’n gynt a darparu miloedd o leoedd ychwanegol i garcharu troseddwyr peryglus a chadw’r cyhoedd yn ddiogel.”
Mae gweinidogion hefyd wedi llofnodi cytundeb a fydd yn agor y ffordd i adeiladu carchar newydd â lle i 1,700 o garcharorion yn Swydd Gaerhirfryn.
‘Peryglus’
Dros y penwythnos, cyhoeddodd y Prif Weinidog Andy Burnham na fydd y dynion a laddodd swyddog Heddlu Dyffryn Tafwys, Andrew Harper, yn gymwys i gael eu rhyddhau’n gynnar. Daeth y penderfyniad ar ôl ymateb chwyrn.
Ar y dechrau, roedd Mr Burnham wedi gwrthod galwadau i gyfyngu ymhellach ar y cynllun. Daeth hynny ar ôl i’r wybodaeth ddod i’r amlwg y byddai Albert Bowers a Jessie Cole yn gymwys i gael eu rhyddhau o’r flwyddyn nesaf.
Cafodd y ddau eu dyfarnu’n euog o ddynladdiad PC Harper yn 2020.
Dywedodd ysgrifennydd cyfiawnder yr wrthblaid, Nick Timothy: “Mae’n hurt i Lafur sôn am ‘dwf mawr yn y gwaith o adeiladu carchardai’ pan mae 700 yn llai o leoedd mewn carchardai nag oedd flwyddyn yn ôl.
“A chafodd y prif garchar yn y cyhoeddiad hwn, sydd ddim yn cynnwys unrhyw arian newydd, ei roi ar waith gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf.
“Diolch i Andy Burnham, bydd miloedd o droseddwyr peryglus yn cael eu rhyddhau i’n strydoedd mewn ychydig wythnosau. Byddan nhw’n cynnwys pobl sydd wedi cyflawni rhai o’r troseddau mwyaf ffiaidd.
“Mae’n rhaid iddo gyflwyno deddfwriaeth frys gerbron y Senedd ar fyrder er mwyn atal y sgandal hwn a chadw’r cyhoedd yn ddiogel.”