Y chwilio’n parhau am aelodau o gwch aeth i drafferth yn y Sianel

RNLI Plymouth
RNLI Plymouth

Mae tri o bobl wedi cael eu hachub o gwch oedd mewn trafferth yn y Sianel, yn ôl Gwylwyr y Glannau, ond mae dau yn parhau ar goll.

Cafodd ymgyrch achub ei lansio nos Sadwrn i geisio helpu’r cwch a oedd mewn trafferth i’r de-orllewin o Oleudy Eddystone ac oddi ar arfordir Plymouth yn ne Lloegr, yn ôl yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau (MCA).

Cafodd yr asiantaeth wybod am y digwyddiad ychydig ar ôl 18:00 ddydd Sadwrn.

Mewn diweddariad ddydd Sul, cadarnhaodd Gwylwyr y Glannau yn Falmouth fod tri o’r pump o bobl oedd ar fwrdd y cwch wedi cael eu hachub.

Ni chafodd rhagor o wybodaeth ei rhannu am y cwch na natur yr argyfwng.

Mae hofrennydd, awyren, a badau achub yr RNLI i gyd yn rhan o'r ymgyrch achub.

Dywedodd yr MCA fod rhagor o gychod wedi ymuno â "chwiliad dwys" a oedd yn parhau drwy gydol y nos.

Mewn datganiad, dywedodd yr MCA: "Mae Gwylwyr y Glannau yn cydlynu’r ymateb i adroddiad am gwch mewn trafferth gyda phump o bobl ar ei fwrdd, i’r de-orllewin o Oleudy Eddystone."

Ychwanegodd: "Mae hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau ac awyren adain sefydlog wedi’u hanfon, ynghyd â badau achub yr RNLI o Falmouth a Plymouth. Mae cychod lleol hefyd yn cynorthwyo.

"Mae’r digwyddiad yn parhau ac nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.