Llyn Ontario neu Lyn America? Yr holl lefydd mae Trump wedi ceisio eu hail-enwi

Donald Trump

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi llofnodi gorchymyn gweithredol i newid enw Llyn Ontario i Lyn America.

Daw hyn ar ôl i drafodaethau masnach rhwng yr Unol Daleithiau a Chanada fethu yr wythnos diwethaf.

Fe wnaeth yr Unol Daleithiau osod tariffau newydd o 50% ar nwyddau o Ganada gwerth $20bn (£14bn).

Ond nid dyma’r tro cyntaf i Donald Trump geisio ail-enwi lle.

Ym mis Ionawr 2025, fe wnaeth orchymyn newid enw Gwlff Mecsico i Gwlff America.

Fel yn achos Llyn Ontario, nid oes gan Donald Trump y grym i orfodi unrhyw wlad arall i ddefnyddio’r enw newydd. Dim ond o fewn llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau y mae’r enwau newydd yn swyddogol.

Serch hynny, mae rhai gwasanaethau ar-lein, gan gynnwys Google Maps, hefyd wedi mabwysiadu’r enw newydd, ond ar gyfer defnyddwyr yn yr Unol Daleithiau yn unig.

Yn yr un mis, fe wnaeth hefyd orchymyn gwrthdroi penderfyniad gan weinyddiaeth Barack Obama yn 2015 i newid enw Mynydd McKinley yn Alaska i Denali.

Mae’r parc cenedlaethol o amgylch y mynydd wedi cadw’r enw Parc Cenedlaethol a Gwarchodfa Denali. Mynydd McKinley yw’r mynydd uchaf yng Ngogledd America.

Sefydliadau

Mae Donald Trump hefyd wedi ceisio ail-enwi sefydliadau ar ei ôl ei hun.

Fe wnaeth gweinyddiaeth Trump newid enw’r United States Institute of Peace i’r Donald J. Trump Institute of Peace.

Cafodd enw Trump ei ychwanegu at bencadlys y sefydliad yn Washington ym mis Rhagfyr 2025. Mae dadl yn parhau ynghylch cyfreithlondeb y newid.

Fe wnaeth bwrdd y John F. Kennedy Center for the Performing Arts newid ei enw i The Donald J. Trump and The John F. Kennedy Memorial Center for the Performing Arts.

Trump oedd cadeirydd y bwrdd a gymeradwyodd y newid ym mis Rhagfyr 2025.

Dyfarnodd barnwr fod y newid yn anghyfreithlon ym mis Mai 2026, a gorchmynnodd fod enw Trump yn cael ei dynnu.

Mae’r bwrdd sy’n cael ei gadeirio gan Trump bellach yn ceisio ychwanegu ei enw eto a galw’r ardal o amgylch y ganolfan yn President Donald J. Trump Plaza.

Enwau eraill

Fe wnaeth Trump ac Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Pete Hegseth, hefyd adfer yr enwau blaenorol, neu fersiynau ohonyn nhw, ar naw o ganolfannau’r Fyddin.

Roedd y canolfannau wedi cael enwau newydd yn 2023, ar ôl i’r Gyngres orchymyn dileu enwau oedd yn gysylltiedig â swyddogion y Cydffederasiwn (Confederacy) yn ystod Rhyfel Cartref America.

Mae pob un o’r naw bellach yn defnyddio’r enw blaenorol neu fersiwn ohono. Maen nhw’n swyddogol yn anrhydeddu milwyr eraill, yn hytrach na swyddogion y Cydffederasiwn.

Mae Trump hefyd wedi awgrymu newid nifer o enwau eraill, ond nid yw’r newidiadau hynny wedi dod i rym.

Mae’r rhain yn cynnwys newid enw Gwlff Persia i Gwlff Arabia, Gorsaf Penn yn Efrog Newydd i Orsaf Trump, a Maes Awyr Rhyngwladol Washington Dulles i Faes Awyr Rhyngwladol Donald J. Trump.

Ar ôl newid enw Llyn Ontario, awgrymodd hefyd y gallai newid enw Cefnfor yr Iwerydd neu’r Cefnfor Tawel, neu’r ddau. Ni wnaeth gynnig enw newydd penodol ar gyfer y naill na’r llall.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.