'Teimlad hollol wahanol’: Holl fflatiau Cymraeg Llys Senghennydd ym Mhrifysgol Caerdydd mewn un bloc
'Teimlad hollol wahanol’: Holl fflatiau Cymraeg Llys Senghennydd ym Mhrifysgol Caerdydd mewn un bloc
Mae'r ffaith y bydd holl fflatiau Cymraeg Llys Senghennydd ym Mhrifysgol Caerdydd mewn un bloc ar gyfer y flwyddyn academaidd eleni yn “deimlad hollol wahanol” yn ôl Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr y brifysgol.
Wrth i fyfyrwyr ddechrau yn y brifysgol ym mis Medi, fe fydd y rhai sydd wedi dewis llety Cymraeg yn Llys Senghennydd yn y brifddinas i gyd mewn un bloc yn dilyn cyhoeddiad ym mis Rhagfyr y llynedd.
Yn y gorffennol, roedd fflatiau ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yn Llys Senghennydd a oedd yn dymuno rhannu llety gyda siaradwyr Cymraeg eraill ar wasgar dros dri bloc arall.
Mae'n gyfnod hynod o gyffrous i fyfyrwyr Cymraeg yn ôl Owain Siôn, Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
“Dwi’n cofio bod yn fy mlwyddyn gyntaf ar bwyllgorau UMCC ac yn trafod posibilrwydd o gael neuadd y Gymraeg a diolch byth erbyn fy nhrydedd flwyddyn oedd o yn realiti," meddai wrth Newyddion S4C.
“Falch iawn o’r datblygiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar o ran derbyn y neuadd Gymraeg ac o ran ymestyn gwelededd y Gymraeg ar y campws."
‘Creu cymuned’
Mae Owain yn gobeithio y bydd y datblygiad newydd yn “gyfle i greu cymuned” gan sicrhau y bydd myfyrwyr Cymraeg yn teimlo yn gartrefol wrth symud i Gaerdydd.
“I gael byw gyda eich gilydd, cael mynd allan drwy’r dydd i ddarlithoedd a cael gweld yr amrywiaeth sydd gan Gaerdydd i gynnig, ond cael dod adra wedyn i floc Cymraeg i ddefnyddio eich iaith gyntaf chi, neu bosib iaith rydych yn ei ddatblygu, mae o yn mynd i fod yn deimlad hollol wahanol.
“Mynd i rhoi’r hyder yna rili i fyfyrwyr ddefnyddio eu Cymraeg a chwilio am y cyfleoedd yna i ddefnyddio eu Cymraeg yn lle bod yn ynysig a dweud y gwir mewn fflatiau bach ar draws y campws.”
'Tyfu opsiynau cymdeithasol'
Yn ôl Owain, mae’n gobeithio bydd y datblygiad yn “hwb” i “dyfu opsiynau cymdeithasol.”
“Gyda’r galw yn cynyddu, gobeithio wedyn mae yna waith i ni dyfu y neuaddau yma a gobeithio yn y dyfodol am ryw hwb cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr Cymraeg," meddai.
“Neuadd i ddod i sgwrsio yn y Gymraeg, i ymlacio, i adolygu yn y Gymraeg felly tyfu yr opsiynau cymdeithasol yna sydd gennom ni yn lle gorfod bosib mynd allan i dre a ffeindio llefydd eraill o gwmpas y dre i gael creu y cymdeithasu yna, bod ni yn cael magu y gymuned yna o fewn y brifysgol dim jyst o fewn fflatiau fel mae nhw ar hyn o bryd.”
Mae Owain yn gobeithio mai dim ond y dechrau ydy’r datblygiad ar gyfer cryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn y brifysgol.
“Ar hyn o bryd rydyn ni yn fwy na hapus gweld sut mae hyn yn datblygu dros y flwyddyn, sut mae’r gymuned Gymraeg yn teimlo am y fflatiau, rhaid i ni gofio eu bod yn newydd iawn, wedyn mynd yn ôl at y brifysgol gydag achos fwy uchelgeisiol i ni drio i gyrraedd," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn falch bod llais myfyrwyr Cymraeg “o’r diwedd yn cael ei glywed.”
“Trwy wneud yr ymchwil ar gyfer y rôl yma, o’n i di sylwi bod hyn 'di bod yn ymgyrch gan UMCC nôl yn yr wythdegau, felly mae yna ddeugain mlynedd a dweud y gwir o ymgyrchu gan fyfyrwyr," meddai.
