Cynhyrchiad 'Calon' Theatr yr Urdd yn rhoi 'bri ar statws' y theatr yng Nghymru
Mae Cyfarwyddwr Cwmni Theatr yr Urdd yn dweud iddyn nhw ddathlu "uchafbwynt" yn eu hanes wrth i Calon - cynhyrchiad sioe gerdd newydd, ddiddanu dros 1,300 o bobl ar noson agoriadol y sioe.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Iau fe agorodd y sioe gerdd i gynulleidfa o 1,331, gyda dros 3,500 o docynnau wedi'u gwerthu ar draws pedwar perfformiad, fydd yn rhedeg tan ddydd Sadwrn.
Caiff y sioe ei hadrodd trwy gasgliad o ganeuon y gantores a'r gyflwynwraig Caryl Parry Jones, gan gynnwys 'Calon' ei hun, ac mae'n dilyn profiad cymeriad Sil, merch 17 oed gyda niwroamrywiaeth.
Dywedodd Branwen Davies, Cyfarwyddwr Theatr yr Urdd, fod y ddrama wedi'i phlethu o amgylch pethau sy'n "bwysig" ac yn "angerddol" i bobl ifanc:
"Mae niwrowahaniaeth yn bwysig i lot o aelodau o'r criw creadigol, ond hefyd i aelodau o'r cast sy'n niwrowahanol eu hunain.
"Mae llawer o bobl wedi diolch i'r cwmni cynhyrchu am nad yw eu profiadau nhw'n aml yn cael eu gweld ar lwyfan," meddai.
Cafodd y cynhyrchiad ei ysgrifennu gan Non Parry a Caryl Parry Jones, a'i gyfarwyddo gan Rhian Blythe - Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Cymru.
'Gyrfa y tu hwnt i lwyfan'
Mae'r cynhyrchiad wedi cynnig y cyfle i 80 o bobl ifanc ar draws Cymru i gymryd rhan mewn sawl agwedd o'r broses gynhyrchu, yn cynnwys y gwaith technegol.
Ychwanegodd Branwen Davies: "Roedd yn bwysig i ni ddangos bod gyrfa hefyd y tu hwnt i berfformio ar lwyfan.
"Mae gymaint o bosibiliadau, o'r gwaith goleuo, sain, cynllunio a cholur - roedd yn bwysig i ni weithio efo mentoriaid sy'n gallu creu cysylltiadau gyda'r bobl ifanc.
"Roedden ni'n awyddus iawn i gynnig y profiad mwyaf proffesiynol i'r bobl ifanc - drwy eu trin nhw fel gweithwyr proffesiynol ond hefyd i gydweithio â phobl fel Rhian Blythe, sydd ar flaen y gad mewn maes mor bwysig.
"Mae'n rhoi bri ar statws theatr yng Nghymru, ac yn profi y gall Theatr Ieuenctid fod yn llawer ehangach" meddai.
Ymhlith y 60 o berfformwyr yr oedd Luned, sy'n 17 oed ac o Fangor.
Dywedodd fod cael bod yn rhan o'r corws wedi rhoi "hwb" i'w hyder: "Mae gymaint o waith tîm i'w gael a 'dw i 'di cyfarfod gymaint o bobl newydd... pobl mor cŵl.
"Mae o 'di rhoi hwb i mi o ran hyder - yr oriau o weithio gyda'n gilydd i wireddu'r freuddwyd gymunedol 'ma.
"Roedd perfformio neithiwr [nos Iau] yn wefreiddiol... nid yn unig oedd un llawr yn y gynulleidfa wedi'i lenwi ond roedd dau - bron i dri llawr yn llawn o fôr o bobl!
"'Dyn ni 'di gweithio mor galed ar hwn ers wythnosau ac roedd yn braf i bobl gael gweld yr holl beth o'r diwedd." meddai.
Cyllid yn 'broblem'
Ychwanegodd Branwen Davies fod cyllid yn "broblem" ym maes celfyddydau Cymru - a bod rhoi sioe at ei gilydd yn gostus:
"Mae'n bwysig dod dros yr heriau 'ma er mwyn cynnig cyfleoedd - mae celfyddydau yn gallu bod yn gathartig ac mae'n hyfryd i rannu cynhyrchiad gyda chynulleidfa.
"Ond 'dyn ni'n griw mawr.. rhwng y staff a'r bobl ifanc mae bron i 100 ohonom ni.
"Mae dod â sioe at ei gilydd yn gostus - mae teithio pobl o gwmpas yn gostus," meddai.
Daw'r ymateb yn dilyn sylwadau ar-lein dros y dyddiau diwethaf oedd yn siomedig nad oedd y cynhyrchiad yn teithio i Ogledd Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd Siân Lewis fod gwerthu cynifer o docynnau yn "dystiolaeth" o waith caled a "thalent" y bobl ifanc, ac yr hoffai "ddiolch o galon" iddyn nhw ond hefyd i Lywodraeth Cymru am "barhau i feithrin y celfyddydau a'r Gymraeg ar lwyfan cenedlaethol."
Lluniau: Celf Calon