Brexit: Bron 2,500 o swyddi wedi'u colli yn y diwydiannau creadigol

Cerddor + Baneri UE

Fe gollodd diwydiannau creadigol Prydain £208 miliwn a bron i 2,500 o swyddi rhwng 2022 a 2024 oherwydd Brexit, yn ôl adroddiad newydd am effaith cyfyngiadau ar deithio i Ewrop.

Cafodd yr asesiad o effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd, sy’n canolbwyntio ar berfformwyr sy’n teithio dramor, ei gyhoeddi gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn Llywodraeth y DU.

Yn ôl y ddogfen, cafodd perfformwyr sy’n teithio ar raddfa ganolig neu fach eu heffeithio’n “anghymesur” gan y newidiadau ddaeth yn sgil ymadawiad y DU o’r undeb yn 2020.

Mae’n dweud hefyd fod y lleihad yn nifer y cerddorion o Brydain sy’n teithio i wledydd Ewrop wedi achosi colledion o £1.04 biliwn yn economïau'r gwledydd hynny.

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad y byddai codi rhwystrau i gerddorion a pherfformwyr deithio drwy newid polisi neu reoliadau yn “creu ystod o fuddiannau economaidd a diwylliannol i’r ddwy ochr.”

Rhwystredigaeth cerddorion

Ymhlith y cerddorion sydd wedi teimlo effaith Brexit ar ei waith mae Peredur ap Gwynedd, y Cymro sy’n chwarae i fand Pendulum.

Wrth siarad ag S4C yn 2024, dywedodd ei fod wedi colli “degau o filoedd o bunnoedd” oherwydd cyfyngiadau ar y diwydiant cerddoriaeth yn dilyn Brexit.

“Pan o’n ni’n aelodau o’r EU o’n ni’n gallu symud nôl a mlaen i Ffrainc, i’r Eidal, i’r Almaen faint bynnag o’n ni eisiau...Brexit yw’r peth gwaetha’ sydd wedi digwydd i Brydain ers yr Ail Ryfel Byd,” meddai ar y pryd.

“Mae e wedi effeithio arna i a bywydau pobol fi’n gweithio gyda.”

Image
Peredur ap Gwynedd
Dywedodd Peredur ap Gwynedd fod Brexit wedi cael cryn effaith ar y diwydiant

Yn ôl adroddiad y DCMS, mae dirywiad teithiau o’r DU i’r UE wedi arwain at “oblygiadau i gynaladwyedd y gweithlu, cyfnewid diwylliannol, datblygiad cynulleidfaoedd a chynnydd allforion y dtfodol ar draws y DU a’r UE.”

Wrth ymateb, dywedodd tri o arweinwyr y diwydiant gerddorol ym Mhrydain fod yr adroddiad yn dangos “gwerth diwylliannol ac economaidd sylweddol” y diwydiant.

“Mewn cyfnod heriol, gall diwylliant fod yn bont - yn gyfle i weld y byd drwy lygaid rhywun arall,” meddai Dave Webster, pennaeth adran ryngwladol Undeb y Cerddorion, Tom Kiehl, prif weithredwr UK Music ac Anita Debaere, pennaeth ffederasiwn Pearle sy’n cynrychioli’r sector perfformiadau byw.

“Rydyn ni’n annog Llywodraeth y DU a sefydliadau Ewropeaidd i sicrhau atebion ymarferol yn y gynhadledd DU/UE nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.