Teyrnged i ŵr 'cariadus' o Gwm Tawe fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur
Mae teulu beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad yn ne Powys wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud ei fod “yn dad, tad-cu a hen dad-cu cariadus oedd yn meddwl y byd o’i deulu.”
Bu farw Melvin Austin, oedd yn 73 oed ac o Ystalyfera yng Nghwm Tawe, wedi digwyddiad ar yr A4067 ddydd Mercher.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur a fan ger pentref Crai, tua 15 milltir i’r gogledd o Ystalyfera, tua 11.45 y bore hwnnw.
Mewn teyrnged, dywedodd y teulu eu bod “ar chwâl” wedi marwolaeth Mr Austin, oedd yn cael ei adnabod fel Mel.
“Am 55 o flynyddoedd bendigedig, bu'n ŵr ffyddlon a enaid hoff cytûn i’w wraig Caron, ac yn dad, tad-cu a hen dad-cu cariadus oedd yn meddwl y byd o’i deulu.
“Fe wnaeth caredigrwydd, cynhesrwydd a chariad Mel gyffwrdd bywydau pawb oedd yn ei adnabod.”
Ychwanegodd y teulu y byddai un o’i ffrindiau gydol oes, oedd yn rhannu ei ddiddordeb mewn beiciau modur, yn “ei golli’n fawr.”
“Roedd y ddau yn angerddol am feiciau modur ac yn reidwyr brwd a rannodd sawl profiad bythgofiadwy ar hyd y daith.
“Fe fyddwn yn cofio am Mel gyda llawer o hoffter a byddwn yn ei golli yn fwy nag y mae geiriau’n gallu ei gyfleu.”
Bu farw Mr Austin yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng y beic modur coch Kawasaki a fan Citroen Berlingo wen.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar eu gwefan neu drwy ffonio 101.