Carcharu dyn am ymosod yn rhywiol ar ferch ysgol ym Môn
Mae dyn 31 oed wedi cael ei garcharu ar ôl meithrin perthynas amhriodol ac ymosod yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau ym Môn.
Fe wnaeth Callum Jaxon, sydd heb gyfeiriad sefydlog ond o ardal Glannau Mersi yn wreiddiol, ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau er mwyn cael ei ddedfrydu ar ôl pledio’n euog i chwe throsedd.
Roedd y troseddau’n cynnwys dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol, yn ogystal â chyhuddiadau o gyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn, anfon neges i drefnu gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn, cyfarfod gyda plentyn ar ôl meithrin perthynas amhriodol gyda hi, a chymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn.
Caergybi
Digwyddodd y troseddau yng Nghaergybi rhwng mis Mawrth a mis Ebrill y llynedd pan oedd y ddioddefwraig yn 15 oed.
Daeth Jaxon i gysylltiad gyda'r ferch ar-lein cyn cyfarfod gyda hi wyneb yn wyneb. Ar adegau, byddai'n ei chyfarfod tu allan i'w hysgol yn ei gar.
Roedd yn trafod cael rhyw gyda hi'n rheolaidd, ac yn defnyddio iaith rywiol gyda hi, er ei fod yn gwybod ei hoedran ac yn ymwybodol ei bod yn fregus.
Ar un achlysur pan wnaethon nhw gyfarfod, dechreuodd gusanu ei brest heb ei chaniatâd.
Er iddi geisio ei wthio i ffwrdd, gwnaeth hynny eto, gan adael clais ar ei chroen.
Eiliadau yn ddiweddarach, cymerodd ran mewn gweithgaredd rywiol gyda'r ddioddefwraig heb ei chaniatâd.
Ddyddiau'n ddiweddarach, gofynnodd i'r ferch dynnu'r holl negeseuon rhyngddyn nhw oddi ar ei ffôn, gan rybuddio y gallai fynd i drafferth pe bai hi ddim yn gwneud hynny.
Carchar
Cafodd Jaxon ei garcharu am chwe blynedd a rhoddwyd gorchymyn atal oes iddo er mwyn gwarchod y dioddefwr.
Mae'n rhaid iddo hefyd gofrestru fel troseddwr rhyw am oes ac fe'i gwnaed hefyd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am 10 mlynedd.
Dywedodd y swyddog ymchwilio yn yr achos, y Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis: "Fe wnaeth Jaxon rwydo'r dioddefwr ac er gwaethaf gwybod ei hoedran hi a pha mor fregus oedd hi, parhaodd i gyfarfod gyda hi ar gyfer ei foddhad rhywiol ei hun.
"Roedd y dioddefwr yn ddewr wrth ddod ymlaen i roi ei hadroddiad, sydd wedi arwain at ddedfrydu Jaxon heddiw.
"'Dan ni'n annog pawb sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol i ddod ymlaen hefo'r hyder y byddan nhw'n cael eu clywed ac yn derbyn help.
"Ni fydd trais yn erbyn merched a genethod yn cael ei oddef ac mae'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru. Byddwn ni'n parhau i fynd ar drywydd y rhai sy'n gyfrifol ac yn dod â nhw o flaen eu gwell."