Cyn-gwnstabl gyda Heddlu'r De yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o dreisio tra ar ddyletswydd
Mae cyn-gwnstabl gyda Heddlu De Cymru wedi ymddangos yn y llys ar ôl cael ei gyhuddo o dreisio tra ar ddyletswydd.
Roedd Rikki Hall, 33 oed, sydd wedi ei gyhuddo o ddau gyhuddiad o dreisio ac un cyhuddiad o dagu nad oedd yn angheuol yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), wedi ymddangos yn Llys Ynadon Bryste fore Iau.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â honiadau ei fod wedi treisio a thagu menyw yr oedd wedi cwrdd â hi wrth gynnal gwiriadau lles a diogelu yn Abertawe.
Digwyddodd y troseddau honedig tra'r oedd ar ddyletswydd ym mis Chwefror 2024.
Mae'r cyn-gwnstabl o Abertawe hefyd wedi ei gyhuddo o fod â dryll yn ei feddiant a dau gyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Clywodd y llys honiadau ei fod hefyd wedi trefnu apwyntiadau gyda gweithwyr rhyw tra ar ddyletswydd.
Wrth siarad â Rikki Hall, dywedodd y Barnwr Lynne Matthews: "Byddaf yn anfon yr achos i Lys y Goron, Bryste. Rwy’n nodi bod y diffynnydd yn bwriadu pledio’n ddieuog."
Fe wnaeth Rikki Hall ymddiswyddo yn ystod yr ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fod yr ymchwiliad wedi cychwyn yn 2024 ar ôl i Heddlu De Cymru gyfeirio'r achos atynt.
Cafodd Hall ei ryddhau ar fechnïaeth amodol. Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Bryste ar 28 Medi.