Tad a mab wedi marw ar ôl disgyn mewn i danc slyri ar fferm yn Sir Caer

Llun: Google
Cann Lane, Sir Gaer

Mae tad a mab wedi marw ar ôl disgyn mewn i danc slyri ar fferm yn Sir Caer yn Lloegr.

Dywedodd Heddlu Sir Gaer eu bod nhw wedi cael eu galw i ddigwyddiad ar ffarm ar Cann Lane yn Aston by Budworth, ger Warrington tua 12:20 ddydd Mercher.

Roedd yr heddlu, gwasanaeth tân a gwasanaeth ambiwlans wedi cyrraedd a darganfod fod dau ddyn wedi disgyn mewn i danc slyri diwydiannol.

Cafodd y ddau ddyn eu symud o'r tanc gan y gwasanaethau brys, ond roedd y dynion wedi marw yn y fan a'r lle.

Roedd Alan Ford yn 72 oed a'i fab Rick yn 42 oed yn ôl adroddiadau yn lleol.

Mae eu teulu wedi cael gwybod ac mae ymchwiliad wedi cychwyn i ddarganfod amgylchiadau'r digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu bod y teulu yn gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.