Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i wrthdrawiad rhwng beic modur a fan ar yr A4067 ger Crai yn ne’r sir.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 11:45 ddydd Mercher rhwng y beic modur coch Kawasaki a fan Citroen Berlingo wen.
Bu farw'r gyrrwr beic modur yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu.
Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu.
Fe gafodd y ffordd ei chau am gyfnod tra'r oedd yr heddlu'n cynnal ymchwiliad.
Mae llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar eu gwefan neu drwy ffonio 101.
Llun: Google maps