‘Gwastraff arian’: Presenoldeb o lai na 10% yn rhai o swyddfeydd Llywodraeth Cymru

Swyddfa Llywodraeth Cymru

Mae llai nag un o bob 10 o’r gweithwyr sydd wedi’u neilltuo i rai o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn bresennol yno bob dydd ar gyfartaledd, yn ôl ffigurau newydd.

Roedd y presenoldeb dyddiol cyfartalog yn 9% yn swyddfeydd Merthyr Tudful, Wrecsam, Caerfyrddin, Penlle’r-gaer a Chasnewydd.

Mae’r ffigurau’n dod wrth i Brif Weinidog y DU geisio symud rhai swyddi yn y gwasanaeth sifil o Whitehall i Fanceinion.

Ym mhrif swyddfa Llywodraeth Cymru yn y gogledd, yng Nghyffordd Llandudno, roedd y presenoldeb dyddiol cyfartalog yn 11% o’r 412 o weithwyr a oedd wedi’u neilltuo i’r swyddfa.

Cafodd y wybodaeth ei rhyddhau i Newyddion S4C ar ôl cais rhyddid gwybodaeth.

Mae’n seiliedig ar bresenoldeb cyfartalog rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 30 Mehefin 2026.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n adolygu maint eu hystad “yn barhaus”.

Ond dywedodd un o Aelodau y Ceidwadwyr o’r Senedd yng ngogledd Cymru bod y ffigyrau yn “destun pryder mawr ac yn wastraff arian cyhoeddus”.

“Costiodd y swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno £20 miliwn i’w hadeiladu ac, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, tua £2 filiwn y flwyddyn i’w cynnal,” meddai Janet Finch-Saunders, AS Bangor Conwy Môn.

“Mae hwn yn ofod swyddfa gwerthfawr. Os nad yw staff Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r adeilad hwn a’r adeiladau eraill yn effeithlon, gallai busnesau lleol eu defnyddio yn lle hynny.”

Galwodd llefarydd ar ran Reform, yr AS Cai Parry-Jones AS, am “synnwyr cyffredin” gan ddweud bod angen i’r llywodraeth “ystyried lleihau maint ei hystad er mwyn arbed arian trethdalwyr”.

Y ffigurau

Fe wnaeth Newyddion S4C ofyn am ffigurau ar gyfer 15 o swyddfeydd Llywodraeth Cymru. Cafodd y ffigurau eu darparu ar gyfer 12 ohonyn nhw.

Ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd, roedd presenoldeb dyddiol cyfartalog yn 18% o’r 3,157 o staff a oedd wedi’u neilltuo i’r swyddfa.

O blith y swyddfeydd roedd gwybodaeth ar gael amdanyn nhw, Llundain oedd â’r gyfradd uchaf, sef 20%. Roedd 26 o staff wedi’u neilltuo i’r swyddfa honno.

Roedd y gyfradd yn 17% yn Aberystwyth a Chaernarfon, 16% yn y Drenewydd a 15% yn Llandrindod.

Nid oedd gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am bresenoldeb yn ei swyddfeydd ym Mae Caerdydd, Aberdaugleddau na Chaergybi.

Ym mis Chwefror, dywedodd Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, fod polisi Gweithio’n Glyfar y Llywodraeth yn hyrwyddo presenoldeb o 40% yn y swyddfa.

“Mae’r rhan fwyaf o gydweithwyr yn gweithio mewn ffordd hybrid yn unol â’n polisi Gweithio’n Glyfar, sy’n hyrwyddo presenoldeb o 40% yn y swyddfa (dau ddiwrnod yr wythnos) ar draws ein safleoedd,” meddai mewn llythyr at yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd Gareth Davies ar 5 Chwefror.

Fe wnaeth Newyddion S4C ofyn a oedd y 40% yn darged, yn ofyniad neu’n ganllaw, ond ni wnaeth Llywodraeth Cymru ateb y cwestiwn.

Ymateb

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae ein dull Gweithio’n Glyfar yn cefnogi cydweithwyr i fod yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud, gan gynrychioli Cymru gyfan ar yr un pryd.

“Rydym yn ymwybodol o’r angen i fabwysiadu dull cynhwysol sy’n cefnogi amgylchiadau unigol yn unol ag anghenion busnes y llywodraeth.

“Mae maint yr ystad yn cael ei adolygu’n barhaus, ac mae presenoldeb mewn swyddfeydd yn un o’r ffactorau sy’n cael eu hystyried.”

Dywedodd Cai Parry-Jones AS, Gweinidog Cysgodol Reform UK Cymru dros Gyllid ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth: “Mae angen agwedd synnwyr cyffredin at hyn. Os yw Plaid yn fodlon parhau i ganiatáu i staff weithio gartref yn bennaf, dylai ystyried lleihau maint ei hystad er mwyn arbed arian trethdalwyr.

“Os yw Plaid am weld staff yn dychwelyd i’r swyddfeydd y mae trethdalwyr yn talu amdanyn nhw, dylai fod yn gwneud mwy i gael pobl yn ôl i mewn. Ar hyn o bryd, mae gennym ni sefyllfa sy’n cynnig y gwaethaf o’r ddau fyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.