Cyn-bencampwr snwcer y byd Graeme Dott yn euog o gam-drin dau blentyn yn rhywiol
Mae cyn-bencampwr snwcer y byd Graeme Dott wedi ei gael yn euog o gam-drin dau blentyn yn rhywiol.
Daeth y rheithgor yn ôl gyda'u dyfarniad ar ôl tair awr o drafod yn Uchel Lys Glasgow ddydd Llun.
Roedd Dott, sydd yn 49 oed, wedi'i gyhuddo o ymddygiad rhywiol ac anweddus tuag at ddau blentyn oedd o oed cynradd.
Mae un o'r cyhuddiadau'n ymwneud â merch yn y cyfnod rhwng 1993 a 1996, a'r llall â bachgen rhwng 2006 a 2010.
Roedd Dott wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Yn ystod yr achos pum niwrnod, clywodd y llys fod Dott wedi cyffwrdd y ddau blentyn yn anweddus a'u cusanu.
Yn y ddau achos, digwyddodd y gamdriniaeth yn ardal Glasgow.
Tystiolaeth
Clywodd y rheithgor gan un o ddioddefwyr Dott, sef menyw sydd bellach yn ei 40au.
Dywedodd fod Dott wedi ei cham-drin yn rhywiol ar sawl achlysur pan oedd hi'n blentyn.
Honodd fod y gamdriniaeth wedi cychwyn gyda Dott yn "mwytho" ei phen ôl dros ei dillad.
Disgrifiodd gêm yr oedd Dott wedi awgrymu ei chwarae, lle'r oedd yn rhaid iddi ddyfalu beth oedd yn ei wneud.
Dywedodd y fenyw wrth y llys fod Dott wedi ei chyffwrdd yn anweddus gyda gwahanol rannau o'i gorff.
Ychwanegodd fod Dott wedi dweud wrthi i beidio â datgelu i unrhyw un ei fod yn ei cham-drin yn rhywiol.
Roedd yr ail ddioddefwr, dyn sydd bellach yn ei 20au hwyr, wedi dweud bod Dott wedi ei gyffwrdd yn amhriodol a'i gusanu.
Dywedodd fod sawl digwyddiad o gamdriniaeth wedi digwydd pan oedd yn y gawod, gyda Dott yn cerdded i mewn tra'r oedd yn rhannol neu'n hollol noeth.
Wrth roi tystiolaeth yr wythnos diwethaf, dywedodd Dott nad oedd “unrhyw ffordd o gwbl” ei fod wedi cam-drin y ddau blentyn yn rhywiol.