Cleveland: Arestio 12 o bobl wedi gwrthdrawiad a laddodd saith o bobl
Cyhoeddodd Heddlu Cleveland fod 12 o bobl wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r gwrthdrawiad ar ffordd yr A66 ddydd Sadwrn, a laddodd saith o bobl, dau blismon yn eu plith.
Yn ôl y llu yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, mae ymchwiliad eang wedi ei sefydlu i "droseddu a ddigwyddodd cyn y gwrthdrawiad."
Mae naw dyn a tair dynes rhwng 19 a 61 oed wedi eu harestio.
Ac mae rhai ohonyn nhw wedi eu harestio ar amheuaeth o gymryd rhan mewn gweithgareddau gan grŵp troseddol.
Cafodd y cwnstabliaid Matthew Blades, 37 oed a Tom Clough, 38 oed eu lladd ar ôl i gar Volkswagen Passat – a oedd yn cael ei erlid gan yr heddlu - eu taro tra roedd yn cael ei yrru y ffordd anghywir ar y ffordd ddeuol.
Roedd pump o bobl yn y cerbyd ar darodd yn erbyn y car heddlu'r cwnstabliaid Blades a Clough.
Cafodd Cole Robert Worthy, 17, Theo Rae, 17, Makai Saddington, 18, Michael Robert Cahill a Jacob Matusiak, y ddau yn 23 oed eu lladd yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu hefyd wedi datgelu brynhawn Llun fod pedwar o'r rhai a gafodd eu lladd yn car Volkswagen Passat wedi bod o flaen eu gwell yn flaenorol.
Mae cofnodion llys yn dangos fod Saddington wedi pledio'n euog i ymosod ar blismon yn Middlesbrough ar 9 Mehefin.
Plediodd yn Llys Ynadon Teesside ar 17 Gorffennaf.
Mae cofnodion hefyd yn dangos fod Saddington wedi ymddangos yn yr un llys ar 11 Hydref 2025, pan gyfaddefodd iddo ymosod ar y Cwnstabl John Walker yn Middlesbrough.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi dweud wrth gyfrwng cymdeithasol TikTok i ddileu fideos sy'n annog gyrru'r ffordd anghywir.
Mae'r gweinidog amddiffyn yn San Steffan Luke Pollard wedi dweud bod angen i gyfryngau cymdeithasol ddileu negeseuon sy'n annog gyrru peryglus.
"Rydw i eisiau gweld cwmniau cyfryngau cymdeithasol yn gweithredu," meddai.
Mae TikTok weedi gwrthod rhoi datganiad yn ymateb i hynny, ond maen nhw'n nodi fod eu polisïau yn gwahardd deunydd a allai achosi niwed difrifol, yn cynnwys gyrru'n beryglus.
Mae comisiynydd heddlu a throsedd Cleveland, Matt Storey yn cydnabod yr adroddiadau am fideos ar TikTok, ond mae e'n annog pobl i beidio â dyfalu am amgylchiadau'r gwrthdrawiad ar hyn o bryd.
Does dim tystiolaeth i awgrymu fod ffilmio wedi digwydd ar gyfer TikTok cyn y gwrthdrawiad
Llun: PA