‘Dydd Gwener gwyllt’: Rhybudd am y ‘diwrnod prysuraf ar y ffyrdd ers degawd’
Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl “dydd Gwener gwyllt” gan fod disgwyl i’r teithiau dros ŵyl y banc yr haf greu’r cyfnod prysuraf ar y ffyrdd ers dros ddegawd.
Fe wnaeth yr RAC gyhoeddi’r rhybudd wrth amcangyfrif y bydd 20 miliwn o deithiau hamdden yn cael eu gwneud mewn car rhwng dydd Gwener a dydd Llun 31 Awst.
Roedd rhagor wedi trefnu gwyliau dros ŵyl y banc o ganlyniad i’r tywydd braf yn ddiweddar, medden nhw.
Mae eu hamcangyfrif yn seiliedig ar holi 2,939 o yrwyr yn y DU ar 17 Awst.
Dyma’r ffigwr uchaf ers i’r cwmni gwasanaethau moduro ddechrau dadansoddi cynlluniau teithio gyrwyr dros ŵyl y banc yr haf yn 2015.
Mae dydd Llun 31 Awst yn ŵyl y banc yng Nghymru, yn ogsytal â Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd yr RAC ei bod yn “debygol y bydd tagfeydd traffig” ddydd Gwener, gyda 4.1 miliwn o deithiau hamdden.
Mae disgwyl 3.8 miliwn o deithiau hamdden ddydd Sadwrn, 3.1 miliwn ddydd Sul a 3.4 miliwn y diwrnod canlynol.
Bryd hynny, bydd pobl ar deithiau dydd yn cystadlu am le ar y ffyrdd gyda phobl sy’n dychwelyd o wyliau byr.
Bydd 5.5 miliwn o deithiau eraill yn cael eu gwneud yn ystod y cyfnod o bedwar diwrnod, ond nid yw’r gyrwyr wedi penderfynu ar ba ddiwrnod yn union y byddant yn teithio, meddai RAC.
Dywedodd Harriet Hernando, llefarydd ar ran gwasanaeth achub yr RAC: “Gyda’r niferoedd uchaf erioed yn mynd i ffwrdd dros ŵyl y banc, mae’n ymddangos bod y tywydd cynnes a sych parhaus wedi calonogi pobl Prydain.
“Mae’n ymddangos hefyd eu bod yn fwy hyderus wrth wneud cynlluniau ar gyfer penwythnos gŵyl y banc ddiwedd yr haf, sy’n aml yn cael ei ddifetha gan y glaw.
“Dylai gyrwyr baratoi ar gyfer dydd Gwener gwyllt ac ystyried cychwyn cyn 10.00 os yw hynny’n bosib.
“Os bydd y tywydd cynnes yn parhau, dylai pobl baratoi rhag ofn iddynt gael eu dal mewn tagfa drwy gario digon o ddŵr.”