Dynes yn cael caniatâd i apelio yn erbyn ei dedfryd am ladd ei babi

Constance Marten
Constance Marten

Mae dynes sy'n euog o ladd ei babi wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn ei dedfryd o 14 mlynedd yn y carchar.

Roedd Constance Marten, 39 oed, a Mark Gordon, 52 oed, yn cuddio pan fu farw eu merch fach, Victoria, mewn pabell ar y South Downs yn ne Lloegr ym mis Ionawr 2023.

Roeddent wedi ffoi rhag yr awdurdodau er mwyn atal Victoria rhag cael ei rhoi mewn gofal, fel yr oedd pedwar o’i brodyr a’i chwiorydd wedi bod o’i blaen, clywodd yr achos yn yr Old Bailey.

Cafwyd Marten a Gordon yn euog o ddynladdiad Victoria, creulondeb tuag at blentyn, cuddio genedigaeth plentyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder y llynedd, yn dilyn dau achos a barodd chwe mis yr un.

Yn dilyn yr achosion llys, daeth i’r amlwg hefyd eu bod wedi treulio cyfnod yng Nghymru a bod Gordon wedi’i ddyfarnu’n euog yn 2017 o ymosod ar ddwy blismones mewn uned famolaeth yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Dedfrydodd y Barnwr Mark Lucraft KC y ddau i 14 mlynedd yn y carchar, a rhoddodd bedair blynedd ychwanegol i Gordon ar drwydded estynedig.

Mae Marten bellach wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn ei dedfryd hi, ac mae hi hefyd wedi adnewyddu ei chais am ganiatâd i apelio yn erbyn euogfarn am ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Nid oes dyddiad wedi’i bennu eto ar gyfer yr achos.

'Esgeulustod o’r math mwyaf difrifol'

Derbyniodd y Barnwr Lucraft achos yr erlyniad fod Victoria wedi marw o hypothermia ar ôl bod yn agored i “straen oer sylweddol”.

Gwrthododd honiadau’r diffynyddion fod Victoria wedi cael ei mygu mewn “damwain erchyll” wrth iddynt gysgu yn y babell.

Roedd y drosedd yn fwy difrifol oherwydd bod y babi yn agored i niwed, a bod y diffynyddion wedi methu â gwrando ar rybuddion blaenorol.

Wrth ddedfrydu’r ddau mewn gwrandawiad, dywedodd y Barnwr Lucraft wrth y diffynyddion: “Mae’n amlwg drwy gydol y cyfnod nad oedd yr un ohonoch wedi meddwl fawr ddim, os o gwbl, am ofalu am eich babi na’i charu.”

Dywedodd y barnwr eu bod wedi dangos “dirmyg” ac wedi trin Victoria ag “esgeulustod o’r math mwyaf difrifol”.

Roedd yr heddlu wedi lansio chwiliad ledled y wlad ar ôl i gar y cwpl fynd ar dân ar draffordd ger Bolton, Manceinion Fwyaf, ar 5 Ionawr 2023.

Teithiodd y diffynyddion ar draws Lloegr a mynd oddi ar y grid, gan gysgu mewn pabell ar y South Downs, lle bu farw Victoria rai dyddiau’n ddiweddarach.

Ar ôl saith wythnos ar ffo, cafodd y diffynyddion eu harestio yn Brighton.

Ar ôl chwiliad dwys, daeth yr heddlu o hyd i’w babi wedi marw ymhlith sbwriel y tu mewn i fag Lidl mewn sied gerllaw.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.