Tanau gwyllt: Sir yng Nghymru ag un o'r allyriadau carbon uchaf yn y byd
Roedd gan sir yng Nghymru un o'r allyriadau carbon uchaf yn y byd fesul cilomedr sgwâr oherwydd tanau gwyllt ym mis Gorffennaf, yn ôl elusen.
Dywedodd elusen Achub y Plant fod ei dadansoddiad o ddata cyhoeddedig yn dangos mai Torfaen oedd â’r pedwerydd dwysedd uchaf o allyriadau carbon fesul cilometr sgwâr yn y byd yn ystod mis Gorffennaf.
Dechreuodd tân uwchben Blaenafon ar 19 Gorffennaf a bu’n llosgi am fwy na mis.
Fe wnaeth y gwasanaeth tân ei ddisgrifio fel “un o’r tanau mwyaf a mwyaf heriol yn ne Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf”.
Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ei fod yn cydnabod bod tanau gwyllt hir “yn gallu effeithio’n andwyol ar ansawdd yr aer lleol”.
Roedd hefyd yn cydnabod bod ei waith monitro rheolaidd wedi cofnodi “crynodiadau uwch o ddeunydd gronynnol” yn ystod y tanau.
Dywedodd elusen Achub y Plant ei bod wedi archwilio data gan Copernicus, rhaglen arsylwi’r Ddaear yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r rhaglen yn monitro tanau gwyllt ledled y byd ac effaith y llosgi.
Roedd dadansoddiad yr elusen yn dangos bod dwysedd yr allyriadau carbon yn Nhorfaen yn ei rhoi yn bedwerydd yn y byd.
Annaba yn Algeria oedd gyntaf am ddwysedd allyriadau carbon o danau gwyllt.
Roedd Ávila, lle bu tanau gwyllt mwyaf Sbaen erioed, yn ail. Roedd Malanje yn Angola yn drydydd.
‘Anadlu mwg’
Dywedodd Achub y Plant fod 15 miliwn o blant ledled y byd wedi byw mewn ardaloedd â lefelau “hynod anarferol” o allyriadau carbon yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst.
Cafodd y lefelau eu cymharu â’r cyfartaledd ar gyfer yr un cyfnod rhwng 2003 a 2025.
Mae tua 20,000 o bobl dan 19 oed yn byw yn Nhorfaen.
Dywedodd Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru: “Yng Nghymru ac ar draws y byd, mae plant yn anadlu mwg o danau gwyllt ac yn ymdopi â gwres eithafol.
“Maen nhw hefyd yn colli’r rhyddid i chwarae yn yr awyr agored oherwydd nad yw’r aer yn ddiogel mwyach.
“Nid yw’r amodau hyn yn frawychus yn unig. Maen nhw’n gallu arwain at ganlyniadau iechyd difrifol i blant, gan fod eu cyrff a’u hysgyfaint yn dal i ddatblygu.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Torfaen: “Nid oedd y cyngor yn ymwybodol o ymchwil Achub y Plant.
“Ar ben hynny, nid yw’n glir pa ddata neu dystiolaeth a gafodd eu defnyddio yn yr asesiad i ddod i’r casgliad hwn.
“Mae’r cyngor yn cydnabod bod tanau gwyllt hir yn gallu effeithio’n andwyol ar ansawdd yr aer lleol. Mae hyn yn arbennig o wir oherwydd lefelau uwch o fwg a deunydd gronynnol.”
Mae’r cyngor yn monitro ansawdd yr aer yn Nhorfaen yn barhaus drwy orsaf fonitro yng Nghroesyceiliog, Cwmbrân.
Mae data cyfnodol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor.