Dyn 34 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn y canolbarth
17/09/2021
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 34 oed farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd y B4569 rhwng Caersws a Threfeglwys am tua 22:30 nos Iau.
Fe wyrodd fan Ford arian oddi ar y ffordd tra roedd yn teithio o gyfeiriad y gorllewin tuag at Drefeglwys medd yr heddlu.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un a oedd yn teithio ar y ffordd neu sydd â lluniau camera dashcam o'r ardal yn ystod cyfnod y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw, gan ddefnyddio’r cyfeirnod DP-20210916-418.