‘Ro'n i ar ben fy hunen’: Mam o Gaerdydd yn galw am fwy o absenoldeb tadolaeth
Mae mam o Gaerdydd sy'n ymgyrchu am fwy o absenoldeb tadolaeth statudol wedi dweud ei bod hi'n teimlo “ar ben ei hun” ar ôl geni ei merch.
Bydd Elen Notley, 34 oed, ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Mae’r digwyddiad yn rhan o Flex Appeal yr ymgyrchydd Anna Whitehouse, sy’n galw ar Lywodraeth y DU i wella’r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd.
Mae’r ymgyrch yn galw am o leiaf chwe wythnos o absenoldeb tadolaeth statudol, gyda thâl o 90% o enillion arferol, er mwyn galluogi partneriaid i "chwarae rhan fwy ystyrlon" yn y gofal yn ystod wythnosau cyntaf bywyd plentyn.
Mae'r ymgyrch hefyd yn galw am gryfhau’r hawl i weithio’n hyblyg ar draws y DU.
Y nod yw perswadio Llywodraeth y DU i gyflwyno’r newidiadau yn y Gyllideb ym mis Hydref.
‘O’n i jyst ar ben fy hunen’
Dywedodd Elen ei bod hi'n teimlo ar ei phen ei hun ar ôl geni, gan fod ei gŵr, Owen, wedi gorfod dychwelyd i’r gwaith lai na phythefnos yn ddiweddarach.
Cafodd ei merch ym mis Hydref 2023, ar ôl “beichiogrwydd anodd” a oedd wedi cynnwys apendicitis a chyfnod yn dioddef gyda'i iechyd meddwl.
Yn ystod yr enedigaeth, roedd yn rhaid iddi gael toriad cesaraidd brys. Ni weithiodd yr epidwral, ac felly cafodd anesthetig cyffredinol.
“O’n i’n teimlo’n rili isel am y ffaith o’n i heb glywed babi bach fi’n crio am y tro cyntaf,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Do’n i ddim yn cofio cwrdd â hi am y tro cyntaf, felly o’n i’n rili stryglo efo hynny.”
Roedd ei merch hefyd yn dioddef o’r clefyd melyn a reflux difrifol, tra bod Elen mewn poen ac yn methu gyrru oherwydd y toriad cesaraidd.
Ychydig ddyddiau ar ôl dod â’i merch adref, roedd yn rhaid iddi fynd yn ôl i’r ysbyty ar ôl cael yr hyn mae hi bellach yn gwybod oedd pwl o banig.
Ond ar y pryd, roedd hi’n ofni ei bod yn dioddef o sepsis.
“O’n i rili jyst methu dod dros be’ o’n i wedi mynd drwy,” meddai.
Fe ddychwelodd ei gŵr, sy’n athro, i’r gwaith ar ôl llai na phythefnos.
Ar y pryd roedd y teulu’n byw yng Nghei Newydd, tra bod teulu Elen yng Nghaerdydd ac ychydig o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael.
“O’n i’n rili stryglan, o’n i jyst ar ben fy hunen,” meddai.
“Oedd angen fy ngŵr arna i, ac mae’n bwysig bod y babi hefyd yn cael gwario amser gyda’i thad a chreu cwlwm, ond doedd dim siawns ‘da hi.”
'Dynion isho neud mwy i’w teulu'
Dywedodd Kate Dearden, Gweinidog dros Ddyfodol Gwaith Llywodraeth y DU, fod y Llywodraeth eisoes wedi newid y gyfraith i roi mynediad at absenoldeb tadolaeth i 32,000 yn fwy o bartneriaid, a’u bod yn cynnal adolygiad o dâl a chyfnodau absenoldeb rhiant.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod hawliau cyflogaeth yn fater i Lywodraeth y DU, ond ei bod yn bwrw ymlaen â chynllun gofal plant i helpu rhieni i gael gwaith ac aros mewn gwaith.
Daw’r ymgyrch yng Nghymru yn sgil pryderon bod anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn cynyddu.
Yn ôl adroddiad diweddar gan Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched Cymru, mae’r bwlch cyflog rhwng dynion a merched yng Nghymru wedi cynyddu i 9.7%.
Yn ogystal â gwella absenoldeb tadolaeth statudol, mae’r ymgyrch hefyd yn galw am gryfhau’r hawl i weithio’n hyblyg.
Er bod y gyfraith wedi newid yn 2024 i roi’r hawl i weithwyr wneud cais i wneud hynny o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth, mae cyflogwyr yn dal i allu gwrthod cais.
Yn ôl ymchwil ddiweddar gan yr undeb llafur TUC, cafodd ceisiadau am weithio’n hyblyg eu gwrthod yn achos 53% o dadau newydd yn y DU.
Mae Elen yn dweud ei bod hi’n “lwcus iawn” o gael swydd sy'n ei galluogi i weithio’n hyblyg yn y sector gwirfoddol, gan weithio pedwar diwrnod hir ac un diwrnod byr er mwyn gallu treulio amser gyda’i merch.
Fe wnaeth hi symud o’r sector preifat i’r sector gwirfoddol bedair blynedd cyn cael plentyn, gan ei bod yn gwybod y byddai hyblygrwydd yn bwysig iddi.
“Mae llai o dâl ond maen nhw’n rhoi polisïau gwell o ran staff wellbeing a hyblygrwydd,” meddai.
Mae’r ymgyrch hefyd yn galw am fwy o hyblygrwydd yn y gweithle, gan gynnwys gweithio oriau cywasgedig, gweithio o gartref a rhannu swyddi.
“Mae pob swydd yn gallu neud rhywbeth i neud y gwaith yn fwy hyblyg fel bod pobl yn gallu cael gwell balans rhwng bywyd teulu a bywyd gwaith,” meddai.
Mae Elen yn credu bod y system bresennol yn rhoi’r argraff mai menywod sy’n gyfrifol am ddatrys problem gofal plant.
“Mae dynion isho neud mwy i’w teulu, ond dydyn nhw ddim yn cael y siawns,” ychwanegodd.
Mae Elen yn dweud bod ei phrofiad wedi gwneud iddi deimlo ei bod wedi colli allan ar eiliadau pwysig gyda’i merch.
“Fi wastad yn dweud, I was robbed of those moments,” meddai.
“O’n i’n stryglo’n gorfforol ac yn feddyliol tra’n trio edrych ar ôl babi oedd efo reflux rili gwael - oedd hi’n colli pwysau oherwydd o’n i methu dod i’r gwaelod o beth oedd hi’n stryglo efo o ran bwydo ac o’n i jyst yn crio bob dydd.”
Mae’r profiad wedi effeithio ar ei phenderfyniadau ynglŷn â chael plentyn arall.
“Odd yr holl broses mor trawmatig o ran cael yr un cynta a hefyd y gost o gael babi a childcare,” meddai.
“Felly mae hynny’n bendant wedi cael effaith ar y sgyrsiau ni ‘di gael am gael plentyn arall.”
Ychwanegodd: “Mae teuluoedd dros Gymru yn cael eu gadael i lawr gan y system.”
'Ni ddylai unrhyw fam orfod profi anawsterau'
Mewn ymateb, dywedodd Kate Dearden, y Gweinidog dros Ddyfodol Gwaith Llywodraeth y DU: "Ni ddylai unrhyw fam orfod profi’r anawsterau a wynebodd Elen yn yr wythnosau ar ôl i’w babi gael ei eni.
"Rydym yn benderfynol o sicrhau bod tadau a phartneriaid yn gallu bod yno i ddarparu cymaint o gefnogaeth â phosibl, yn enwedig yn ystod yr wythnosau a’r misoedd hollbwysig cyntaf hynny pan fo mamau’n aml yn gwella ar ôl rhoi genedigaeth.
"Dyna pam rydym eisoes wedi newid y gyfraith i roi mynediad at absenoldeb tadolaeth i 32,000 yn fwy o bartneriaid, ac rydym yn cynnal adolygiad llawn o dâl a chyfnodau absenoldeb rhiant er mwyn sicrhau ein bod yn adlewyrchu realiti gwaith a gofal plant modern, fel y gall rhieni dreulio cymaint o amser â phosibl yn gwneud yr hyn sydd bwysicaf – gofalu am eu babi."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod hawliau cyflogaeth wedi’u cadw i Lywodraeth y DU, rydym yn cydnabod pwysigrwydd helpu rhieni i gydbwyso bywyd gwaith a theuluol.
"Mae’r llywodraeth newydd hon yn bwrw ymlaen â chyflwyno’r cynnig gofal plant mwyaf hael a thrawsnewidiol yn unrhyw le yn y DU, i gefnogi teuluoedd cymwys gyda chostau gofal plant a helpu rhieni i gael mynediad at gyflogaeth ac aros mewn cyflogaeth."