Gofal mewn unedau brys yng Nghymru 'ddim yn ddiogel' yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol
Gofal mewn unedau brys yng Nghymru 'ddim yn ddiogel' yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol
Nid yw gofal mewn unedau brys yng Nghymru yn ddiogel, yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, sy'n dweud bod angen buddsoddi i gynyddu lefelau staffio.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd llefarydd y Coleg yng Nghymru bod problemau, gan gynnwys pobl yn derbyn triniaeth mewn coridorau, yn "gadael cleifion mewn lle anniogel ofnadwy."
Fe brofodd unedau brys ysbytai Cymru eu mis prysuraf ar gofnod yng Ngorffennaf, gyda pheth o'r bai yn cael ei roi ar sgil-effeithiau'r tywydd poeth.
Yn ôl ystadegau newydd, roedd 'na 104,100 o ymweliadau ag adrannau brys dros y mis, sef cyfartaledd o 3,357 y dydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw "arferion anniogel" fel gofal mewn coridor yn dderbyniol a'u bod wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion.
'Anniogel ofnadwy'
Ond rhybuddiodd y Coleg Nyrsio Brenhinol bod y sefyllfa'n beryglus.
"I gychwyn, mae’r Gweinidog Iechyd ei hun wedi dweud bod yr ystadegau rhestr aros yn ddifrifol," meddai Sandra Robinson-Clark, un o lefarwyr y Coleg Nyrsio yng Nghymru a chadeirydd eu cangen yn y gogledd.
"Ond ‘dan ni hefyd yn gwybod bod y gwasanaeth iechyd yn dioddef o ran corridor care.
"Mae hwnnw dal efo ni a bydd y sefyllfa yna dal efo ni am amser i ddod.
"Dydy’r adnoddau ddim wedi cael eu buddsoddi i gael rhagor o staff, does ’na’m digon o capacity yn yr ysbytai.
"Felly, mae hynna’n rhoi mwy o straen ar y staff, ond mae o hefyd yn rhoi cleifion mewn lle anniogel ofnadwy."
Pan ofynnodd Newyddion S4C i Ms Robinson-Clark a oedd hi wir yn credu nad ydy’r gwasanaethau brys sy’n cael eu cynnig yn ddiogel, atebodd: "Ydw."
Mewn ymateb i'w sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae’r Llywodraeth newydd hon wedi bod yn glir o’r cychwyn cyntaf nad yw arferion anniogel megis gofal mewn coridor yn dderbyniol, a’u bod yn adlewyrchiad o broblemau hirsefydlog ar draws y system sy’n ymwneud â llif cleifion, yn y gwasanaethau brys ac ym maes gofal cymdeithasol.
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion drwy fynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, gan hefyd sicrhau y gall mwy o bobl gael eu rhyddhau’n ddiogel i leoliadau gofal cymunedol drwy ein rhaglen uchelgeisiol ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol."
'Ystadegau enbyd'
Mae sefyllfa'r gwasanaeth iechyd yn un o brif heriau'r llywodraeth newydd dan arweinyddiaeth Plaid Cymru - a'r ystadegau rhestrau aros diweddaraf yn adlewyrchu hynny.
Am y trydydd mis yn olynol, roedd cynnydd yn nifer y bobl oedd yn aros am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd. Ym mis Mehefin, roedd 698,400 o gleifion yn aros am lawdriniaethau - cynnydd o 8,700 o'i gymharu â'r mis blaenorol.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, bod yr ystadegau newydd sy'n dangos bod adrannau brys yng Nghymru wedi cofnodi eu mis prysuraf erioed yn rhai "enbyd".
"Mae’r ystadegau yn rhai enbyd, a dw i ddim yn gwadu hynny," meddai. "Mae’r perfformiad o ran amseroedd aros cyffredinol yn bell o’r hyn y dylai fod.
"Mae pobl Cymru yn haeddu gwell, ac fel Llywodraeth newydd, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i greu gwasanaeth iechyd yng Nghymru lle mae pobl yn cael eu gweld a’u trin yn llawer cynt nag sy’n digwydd heddiw."
Ychwanegodd y bydd yn datgelu cynllun yn ystod yr wythnosau nesaf ar sut y bydd £145 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i fynd i’r afael â rhestrau ac amseroedd aros.
"Mae’n newid pendant a fydd yn golygu bod pobl yn cael eu gweld yn gynt," meddai.
"Mi fydd hyn yn lleihau amseroedd aros, yn lleihau rhestrau aros ac, yn bwysicaf oll, yn eu cadw’n fyr."