'Enbyd': Adrannau brys ysbytai Cymru yn cofnodi eu mis prysuraf erioed
20/08/2026Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud bod ystadegau newydd sy'n dangos bod adrannau brys yng Nghymru wedi cofnodi eu mis prysuraf erioed yn rhai "enbyd".
Cofnodwyd cyfanswm o 104,100 o ymweliadau yn ystod mis Gorffennaf, sef cyfartaledd o 3,357 y dydd.
Roedd hynny 67 yn fwy na’r cyfartaledd dyddiol ym mis Mehefin.
Y targed yw bod 95% o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adran frys.
Ym mis Gorffennaf, roedd y gyfran yn 64.1%. Roedd hynny’n well na’r mis blaenorol, ond mae’r gyfran wedi aros rhwng 60% a 70% yn bennaf dros y blynyddoedd diwethaf.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd â’r gyfran uchaf o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adran frys, sef 72.1%.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg oedd â’r gyfran isaf, sef 57.6%.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor: “Mae’r ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw am berfformiad yr NHS yn dangos y pwysau sylweddol y mae gwasanaethau brys ledled Cymru wedi’u hwynebu ym mis Gorffennaf.
“Roedd dros 104,000 o ymweliadau ag adrannau achosion brys, sy’n gyfartaledd o 3,357 o ymweliadau y dydd. Dyma’r nifer uchaf erioed – a dw i’n cydnabod bod gormod o lawer o bobl yn dal i aros yn rhy hir am ofal brys.
“Mae’r ystadegau yn rhai enbyd, a dw i ddim yn gwadu hynny. Mae’r perfformiad o ran amseroedd aros cyffredinol yn bell o’r hyn y dylai fod.
“Mae pobl Cymru yn haeddu gwell, ac fel Llywodraeth newydd, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i greu gwasanaeth iechyd yng Nghymru lle mae pobl yn cael eu gweld a’u trin yn llawer cynt nag sy’n digwydd heddiw.”
Dywedodd Mabon ap Gwynfor y bydd yn datgelu cynllun yn ystod yr wythnosau nesaf ar sut y bydd £145m o gyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i fynd i’r afael â rhestrau ac amseroedd aros.
Ychwanegodd: “Mae’n newid pendant a fydd yn golygu bod pobl yn cael eu gweld yn gynt. Mi fydd hyn yn lleihau amseroedd aros, yn lleihau rhestrau aros ac, yn bwysicaf oll, yn eu cadw’n fyr.”