Tân Llanymddyfri: Gwasanaeth tân yn gofyn am gymorth y fyddin

14/08/2026

Tân Llanymddyfri: Gwasanaeth tân yn gofyn am gymorth y fyddin

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gwneud cais am gymorth gan y fyddin wrth i danau gwyllt barhau mewn rhannau o ganol de Cymru.

Dywedodd y gwasanaeth eu bod wedi cyflwyno cais am gymorth milwrol i’r Awdurdodau Sifil, er mwyn darparu cymorth logistaidd a thactegol ychwanegol wrth i’r tywydd poeth a'r tanau barhau.

Roedd yr awdurdodau wedi cyhoeddi digwyddiad o bwys ('major incident') yn Sir Gâr wedi i dân mewn coedwig sydd bellach yn llosgi ers tridiau orfodi nifer i adael eu cartrefi.
 
Dywedodd swyddogion ddydd Gwener bod criwiau wedi bod yn gweithio drwy'r nos ac yn parhau i frwydro'r tân gwyllt yn ardal Rhandirmwyn ger Llanymddyfri.
 
Mae tanau gwyllt yn dal i losgi mewn ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd, gan gynnwys rhan o Bowys.
 

Daw’r cais am gymorth y fyddin yn Sir Gâr yn dilyn y cyfnod estynedig o dywydd poeth a galw sylweddol ar adnoddau’r gwasanaeth tân ac achub, gyda diffoddwyr tân, staff ystafelloedd rheoli a thimau cymorth wedi bod yn gweithio ddydd a nos.

Dywedodd y gwasanaeth fod y cais yn rhan o gynlluniau sydd wedi’u sefydlu ers tro ar gyfer ymdrin â digwyddiadau hirfaith a chymhleth, a’i fod wedi’i gyflwyno wedi i’r sefyllfa gyrraedd y lefel briodol o fewn y trefniadau hynny.

Roedd ffordd yr A470 yn parhau ar gau fore dydd Gwener rhwng tref Rhaeadr Gwy a phentref Llanwrthwl o achos tân cyfagos, wrth i Oorsaf Dân Llandrindod apelio ar yrwyr i beidio anwybyddu arwyddion sy'n nodi bod y ffordd ar gau.
 
Trydydd diwrnod o frwydro
 
Mae diffoddwyr wedi bod yn brwydro'r fflamau yn Rhandirmwyn ger Llanymddyfri ers 12:45 ddydd Mercher, ac fe gafodd digwyddiad o bwys ei gyhoeddi ddydd Iau yn sgil "maint, cymhlethdod ac effaith posib y tân gwyllt."
 
Nos Iau, roedd "tua 250 hectar o dir" wedi cael ei effeithio gan y tân, yn ôl swyddogion.
 
Fe gafodd canolfan orffwys ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Llanymddyfri yn gynharach i helpu trigolion sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi. Dywedodd y gwasanaeth tân bod pobl wedi eu symud o "sawl eiddo preswyl" am fod y tân yn agos i'r adeiladau.
 

Dywedodd Matt Jones, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Ein blaenoriaeth o hyd yw diogelu cymunedau gan sicrhau ein bod yn gallu cynnal ein hymateb cyhyd ag y bydd yr amodau’n mynnu hynny.

“Mae gofyn am gymorth milwrol yn gam synhwyrol a rhagofalus sy’n darparu capasiti cymorth ychwanegol, yn cryfhau ein cydnerthedd ac yn ein helpu i barhau i ddiogelu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Ychwanegodd y byddai’r cymorth hefyd yn helpu i sicrhau lles diffoddwyr tân a staff sydd wedi bod yn gweithio mewn amodau heriol dros gyfnod estynedig.

'Gwneud ein gorau glas'
 
Fe gyhoeddodd criw o Orsaf Dân Llanymddyfri neges ar Facebook yn dweud eu bod wedi derbyn negeseuon gan deulu, ffrindiau ac aelodau o'r gymuned sy'n poeni amdanynt a'r sefyllfa yn ehangach ddydd Iau.
 
"Cymerwch y neges hon fel sicrwydd ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i gadw eiddo'n ddiogel yma ym mryniau Rhandirmwyn!" meddai'r criw.
 
"Rydym ni'n boeth ac yn chwyslyd, ond yn hynod ddiolchgar am gael gwasanaethu ein cymuned yn y cyfnod pryderus hwn!"
 
Mae Cyngor Tref Llanymddyfri wedi diolch i'r diffoddwyr tân am eu hymdrechion.
 
Prif lun: Tân ar fynydd ger Rhaeadr (llun gan Heddlu Dyfed-Powys)
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.