Dau ddyn o Fôn i geisio pedlo 77km ar draws Môr Iwerddon
Bydd dau ddyn o Ynys Môn yn ceisio pedlo 77 km ar draws Môr Iwerddon ddydd Sadwrn, mewn ymgais i godi arian ar gyfer elusen sy’n rhoi cymorth iechyd meddwl i bobl yng nghefn gwlad Cymru.
Bydd Kristian Cuffin, 33 oed, a Graham Wood, 55 oed, yn gadael Caergybi ar gaiacau sydd wedi’u haddasu gyda phedalau, gyda’r bwriad o gyrraedd Dún Laoghaire, sef tref i’r de o Ddulyn yn Iwerddon.
Dywedodd y pâr - sy’n rhedeg busnes coffi gyda’i gilydd - y bydd yr amser cychwyn yn dibynnu ar y tywydd ac amodau’r môr.
Os yw’r amodau’n ffafriol, maen nhw'n gobeithio cwblhau’r daith mewn tua 18 awr, ond maen nhw’n disgwyl y gallai gymryd hyd at 30 awr.
Bydd cwch yn eu dilyn ar hyd y daith er mwyn sicrhau eu diogelwch, yn ogystal â chario bwyd iddynt.
Ond mae’r ddau eisoes wedi cael blas ar yr her sydd o’u blaenau.
"Rydyn ni wedi cael ambell sesiwn ymarfer," meddai Mr Cuffin wrth Newyddion S4C.
"Wnaeth un o’r rhai cyntaf ddim mynd yn dda iawn - fe gollon ni reolaeth o’r caiac, felly roedd yn rhaid i ni gael ein hachub.
"Wedyn rydyn ni wedi cael cwpl o sesiynau ymarfer eraill ac wedi datrys yr holl broblemau bach."
Mae Mr Wood, sydd wedi adeiladu’r caiacau ei hun, yn cyfaddef mai dim ond yn ddiweddar y dechreuodd sylweddoli maint yr her.
"Dim ond tua dau ddiwrnod yn ôl nes i ddechrau sylweddoli pa mor fawr yw’r her," meddai.
"Tan hynny, dim ond syniad bach gwirion oedd o!"
'Risg go iawn'
Mae’r ddau wedi trefnu’r llwybr ac asesu’r llanw, ond bydd amodau’r môr yn chwarae rhan allweddol yn y daith.
Mae Mr Wood wedi arfer gweithio ar y môr fel pysgotwr, ond mae’n cyfaddef bod y daith ar draws Môr Iwerddon yn her o fath gwahanol.
"Mae ‘na risg go iawn y byddwn ni’n dod ar draws tipyn o wynt," meddai.
"Ac mae’n anodd iawn gwybod a fyddwch chi’n dal i allu pedlo pan fydd hi’n wyntog, neu fyddwch chi’n cael eich taflu oddi ar y cwch, neu a fydd y cwch yn dechrau torri’n ddarnau."
Er bod yr her yn un newydd i Mr Wood, mae ganddo brofiad o heriau corfforol eraill, gan gynnwys cerdded 100km.
Mae Mr Cuffin hefyd wedi cyflawni nifer o heriau dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Ring O’Fire, ras ultra-marathon 200km ar hyd arfordir Ynys Môn.
Y tu ôl i’r her mae awydd y ddau i gefnogi Sefydliad DPJ, sy’n rhoi cymorth iechyd meddwl i unigolion sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru.
"Rydyn ni’n byw yn Ynys Môn lle mae cymunedau gwledig ac amaethyddol yn bennaf, felly rydyn ni jest eisiau cefnogi’r rheini," meddai Mr Cuffin.
"Fel perchnogion busnesau ein hunain, rydym yn gwybod ei bod hi wedi bod yn gyfnod anodd i berchnogion busnesau.
"Ond wedyn, gyda ffermio hefyd, mae cymaint o bethau eraill sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni, ac sy’n gallu effeithio ar iechyd meddwl.
"Felly mae’n rhywbeth sy’n eithaf agos at ein calonnau ni, ac rydyn ni jest eisiau cefnogi’r ffermwyr sy’n rhoi bwyd ar ein byrddau."
Mae’n gobeithio y bydd yr her yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r anawsterau sy’n wynebu ffermwyr.
"Y prif beth dwi eisiau ei gyflawni ydi codi ymwybyddiaeth o’r trafferthion mae ffermwyr yn eu hwynebu, ac yna, wrth gwrs, bydd unrhyw gyfraniadau yn helpu’r elusen, ac felly’n helpu’r ffermwyr yn uniongyrchol," meddai.
"Dwi’n gobeithio hefyd y bydd yr her yn ysbrydoli mwy o bobl i roi cynnig ar eu hantur codi arian eu hunain, ac i roi mwy o ddaioni i’r byd."