Anhrefn Pontnewynydd: Teyrnged teulu i ddyn sy'n destun ymchwiliad llofruddiaeth
Mae teulu dyn sy'n destun ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn anhrefn ym Mhontnewynydd yn ardal Pont-y-pŵl wythnos yn ôl wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Anthony ‘Tony’ Jones, oedd yn 56 oed ac yn dod o Aberhonddu, yn yr ysbyty yn dilyn yr anhrefn.
Mewn diweddariad bnawn dydd Mawrth, cyhoeddodd swyddogion yr heddlu eu bod yn credu fod y trais wedi bod rhwng aelodau o ddau glwb beiciau modur - sef clybiau'r Vikings a'r Hells Angels.
'Gŵr annwyl'
Mewn teyrnged i Mr Jones, dywedodd ei deulu: “Yn anad dim, roedd Anthony yn ŵr annwyl ac yn dad ymroddedig.
“I ni, nid enw mewn stori newyddion ydoedd - ef oedd ein Anthony ni, ac mae’n amhosibl disgrifio mewn geiriau y gwagle a adawodd yn ein teulu.
“Roedd yn hynod ddiwyd ac yn gwneud yn siŵr bob amser bod anghenion ei deulu yn cael eu diwallu.
“Sarah a’r plant oedd canolbwynt ei fyd, ac roedd yn eu caru’n arw."
Ychwanegodd y deyrnged: “Roedd yn hynod falch o’i blant ac yn eu caru’n ddiderfyn. Roedd Anthony hefyd yn daid annwyl, ac yn cael ei adnabod yn annwyl gan ei wyrion a’i wyresau fel ‘Grumpy’.
“Roedd yn caru ei wyrion a’i wyresau yn fawr ac yn hynod falch ohonyn nhw.
“Roedd bod yn ‘Grumpy’ iddyn nhw yn rhan arbennig iawn o’r bywyd teuluol yr oedd yn ei garu gymaint.
“Roedd Anthony bob amser yn barod am chwerthin ac nid oedd yn mwynhau dim byd yn fwy na threulio amser gyda’i deulu.”
Dwedodd ei deulu eu bod yn deall y byddai diddordeb cyhoeddus yn ymwneud â marwolaeth Mr Jones, ond "gofynnwn i bobl gofio bod teulu sy’n galaru y tu ôl i bopeth sy’n cael ei ysgrifennu a’i ddweud."
“Gofynnwn yn barchus i Sarah, y plant a theulu estynedig Anthony gael yr preifatrwydd a’r tosturi sydd eu hangen arnynt i alaru.
“Bydd Anthony yn cael ei garu a’i golli yn fwy nag y gall geiriau fyth eu mynegi.”
Gangiau beiciau modur
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Laura Bartley, y prif swyddog ymchwilio: “Mae ditectifs yn gweithio i sefydlu amgylchiadau llawn y digwyddiad ddydd Iau, gan gynnwys gweithredoedd a symudiadau'r rhai a fu'n rhan ohono cyn, yn ystod ac ar ôl yr anhrefn."
"Ar y cam hwn o'n hymchwiliad, credwn fod yr anhrefn treisgar yn ymwneud ag aelodau o ddau glwb beiciau modur anghyfreithlon, y Vikings a'r Hells Angels.
“Mae sefydlu union gyfraniad y rhai sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad yn parhau i fod yn brif ffocws i'r ymchwiliad."
Gall unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101 neu ar wefan y llu gan ddefnyddio cyfeirnod 2600255536.