Rhun ap Iorwerth 'yn cefnogi' gwaharddiad posib ar farbeciws tafladwy

Barbeciw symudol/untro

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cefnogi galwadau i wahardd gwerthu setiau barbeciw tafladwy er mwyn lleihau'r risg o danau gwyllt, wrth i Andy Burnham ystyried cyflwyno'r mesur.

Mae gwasanaethau tân ac awdurdodau ar draws y DU wedi apelio ar bobl i beidio â defnyddio barbeciwiau o'r math yma ar hyn o bryd, rhag ofn iddyn nhw achosi tanau mewn ardaloedd gwledig lle mae'r tir yn sych.

Fe gofnodwyd dros 1,000 o danau gwyllt yng Nghymru a Lloegr hyd yma eleni, gyda rhai wedi eu hachosi gan farbeciws tu allan. Mae Cymru gyfan erbyn hyn mewn sychder swyddogol.

Mae rhai siopau eisoes wedi tynnu barbeciws o'r fath oddi ar y silffoedd o'u gwirfodd. Er mai llywodraeth San Steffan a chynghorau lleol sydd â'r grymoedd i gyflwyno gwaharddiadau ar eu gwerthu, dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth BBC Radio Wales fore Iau y byddai'n cefnogi gwaharddiad.

"Dwi'n llwyr gefnogi cymryd mesurau allai gael gwared â'r risg yma gymaint â phosib," meddai Mr ap Iorwerth.

"'Dan ni'n gwybod nad ydy fflamau noeth mewn llefydd cras a sych yn syniad da, ac mae 'na apêl wedi bod ar i siopau i dynnu'r barbeciws yma oddi ar y silffoedd."

Image
Tan De Cymru Llun: Gwasanaeth Tan De Cymru
Cyfeiriodd Mr ap Iorwerth at y pwysau ar wasanaethau yn Ne Cymru yn sgil tanau gwyllt. Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Ychwanegodd: "'Dan ni wedi cael, ac yn dal i brofi, un o'r hafau poethaf ar record, ac mae'n cael effaith eithaf trychinebus o ran sychder a thanau gwyllt felly mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni.

"Felly os ydy tynnu llawer o'r barbeciws yma, os nad pob un, allan o'r system yn helpu, yna mi ddylen ni i gyd fod yn awyddus i wneud hynny."

'Normal newydd'

Ddydd Mercher, ymunodd Mr ap Iorwerth â Mr Burnham, Prif Weinidog y DU, ar gyfer cyfarfod brys COBRA i ddelio gyda'r tanau sydd wedi taro Cymru a gweddill Prydain.

Dywedodd y Cymro fod y cyfarfod wedi helpu i "osod sylfaen dealltwriaeth" o ran cydweithio rhwng sefydliadau a gwasanaethau brys, a bod cytundeb y dylai gwahanol ardaloedd gefnogi ei gilydd.

Ychwanegodd y byddai'r gynhadledd tanau gwyllt a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru yn gyfle i weld pa gamau sydd angen eu cymryd yn sgil y tywydd eithafol sydd, meddai, y "normal newydd".

"Y gwir ydy y bydd tanau gwyllt, er enghraifft, yn dod yn fwy cyffredin a mwy bygythiol ac yn anoddach i'w diffodd," meddai. 

"Felly mae'n rhaid i ni fod yn barod at yr her yna."

Prif lun: Prosthetic Head, CC BY-SA 4.0, Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.