Dynes yn dweud mai ei chariad oedd yn berchen ar gi a laddodd ei dad
Mae llys wedi clywed bod dynes sydd wedi ei chyhuddo o fod yn berchen ar gi XL Bully a oedd allan o reolaeth mewn modd peryglus, ac a laddodd tad ei chariad, wedi honni mai ei chariad oedd yn berchen arno.
Dywedodd Chanel Fong, 33 oed, o Wrecsam wrth Lys y Goron Caernarfon ddydd Iau fod ganddi gi brid pinscher, ond mai ei phartner oedd perchennog y cŵn eraill.
Mae Ms Fong yn gwadu mai hi oedd yn berchen ar Cookie, ci XL Bully peryglus a oedd allan o reolaeth yn honedig, yng ngardd gefn ei chartref ar Ffordd Holt yn Wrecsam, ac a achosodd anafiadau a arweiniodd at farwolaeth Keven Jones, 62 oed, yn 2022.
Roedd hi yn ei dagrau yn y doc wrth i funudau olaf bywyd Mr Jones gael eu hamlinellu gan yr erlyniad.
'Sigledig'
Clywodd y llys fod Mr Jones y tu allan pan glywodd Ms Fong ef yn dweud "Cookie, dos oddi arna i."
Dywedodd Ms Fong ei bod wedi agor y drws a dweud wrth y ci i adael llonydd i Keven Jones.
Roedd Mr Jones wedi cerdded tuag at Ms Fong "ychydig bach yn sigledig" ac roedd gwaed yn pwmpio o'i goes.
Fe wnaeth hi lapio blanced rownd ei goes a ffonio 999, cyn rhoi cywasgiadau ('compressions') iddo ar ei frest a'i gusanu cyn i'r parafeddygon gyrraedd.
Cafodd ambiwlans awyr ei anfon i gludo Mr Jones i'r ysbyty, ond nid oedd modd ei achub.
Fe gafodd Cookie ei ddifa yn dilyn y digwyddiad.
Wrth gael ei holi gan yr heddlu, dywedodd y diffynnydd fod Keven Jones wedi dweud wrthi ei fod yn mynd allan.
Atebodd Chanel drwy ddweud, "na, dwyt ti ddim Kev."
Eglurodd y diffynnydd yn ddiweddarach fod ei chariad, Joshua Jones, wedi mynd i gêm bêl-droed yn Llundain.
Disgrifiodd hi Cookie fel ci oedd yn gwrando arni hi fwyaf.
Ychwanegodd fod Keven Jones, oedd yn "gaeth i gyffuriau", yn "caru anifeiliaid."
Wrth siarad am Cookie, dywedodd Ms Fong fod Cookie yn gi "mawr, doofy, twp."
"Dyw Cookie ddim y math o gi sydd yn filain. Yr unig beth mae erioed wedi ei wneud yw fy nghrafu."
Wrth gael ei holi gan Rebecca Filletti ar ran yr amddiffyn, dywedodd Ms Fong fod ei phartner, Joshua Jones, yn y llys yn ei chefnogi.
Ychwanegodd fod Mr Jones wedi cofrestru Cookie gyda Chlwb Cenel Bully America.
Mae'r achos yn parhau.