Diffyg ar yr haul yn taflu ei gysgod ar Gymru

Diffyg ar yr haul yn taflu ei gysgod ar Gymru

Aeth rhannau o Gymru'n dawelach a thywyllach nag arfer nos Fercher wrth i ddiffyg trawiadol ar yr haul groesi Ewrop am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth.

Tyrrodd pobl i'r awyr agored ar draws y wlad i wylio'r eclips rhannol ond mwyaf cyflawn i daro'r DU ac Iwerddon ers 1999, wedi dyddiau o gyffro a pharatoi.

Ffurfiodd ciwiau hir mewn rhai siopau wrth i bobl frysio i brynu sbectolau arbennig i wylio'r haul yn ddiogel, ac roedd golygfeydd tebyg i'w gweld mewn digwyddiadau cyhoeddus ble ddaeth miloedd i gyd-wylio.

Gyda'r sbectolau'n brin, daeth rhai â'u dyfeisiadau eu hunain - gan gynnwys sbienddrychau cartref wedi'i wneud o focsys grawnfwyd - i wylio'r sioe brin.

Ymhlith y llefydd yng Nghymru a welodd dorfeydd yn ymgasglu oedd y prom yn Aberystwyth, ble daeth cannoedd o bobl ynghyd.

Tra mai hwn oedd y digwyddiad cyntaf o'i fath i nifer, soniodd rhai wrth Newyddion S4C am eu profiadau yn gwylio'r un digwyddiad seryddol 27 o flynyddoedd yn ôl. 

'Rhyfeddol'

"Mae'n grêt dod yma," meddai John Hughes. "Y tro dwytha' oedd 27 mlynedd yn ôl, o'n i yn Fairbourne, yn 18 yn gweld yr eclips. A rŵan dwi gyda fy merch yn ei wylio fo yn Aberystwyth ac mae hi'n 18."

Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones ei bod hi wedi gwylio'r eclips diwethaf mewn maes parcio - ond llawer gwell oedd ei wylio ar y prom.

"Dwi newydd roi'r sbectol ymlaen ac mae'r sbectol yn dangos y lliw mor arbennig... mae'n rhyfeddol," meddai. 

"Mae teimlad o gymuned, pobl sydd yma ar eu gwyliau a phobl leol yn dathlu - a'r tywydd yn braf iawn, iawn hefyd."

Image
Gwylio'r eclips Awst 12 yn Tynemouth, Lloegr. Stefan Rousseau/PA Wire
Plant yn gwylio'r eclips drwy focsys grawnfwyd yn Tynemouth, Lloegr. Llun: Stefan Rousseau/PA Wire 

Fe ddechreuodd y lleuad orchuddio'r haul yn rhannol uwchben Cymru ychydig wedi 18:10, gan gyrraedd ei uchafbwynt tuag awr yn ddiweddarach. Roedd dros 90% o'r haul wedi ei orchuddio ar draws y wlad ar ei anterth.

Rhannau o'r Ynys Las, Gwlad yr Iâ a Sbaen welodd y golygfeydd mwyaf dramatig, gan eu bod nhw yn y llwybr tenau ble'r oedd yr haul wedi ei orchuddio'n gyfan gwbl am gyfnod byr ond dramatig.

Roedd un gŵr o Ynys Môn a'i deulu ymhlith y rheiny fu'n gwylio yn Guadalajara, Sbaen. 

Dywedodd Geraint Simpson wrth raglen Newyddion S4C bod "cannoedd" wedi ymgynnull yno i brofi'r achlysur "arbennig," ag yntau wedi gwneud y daith yn unswydd.

'Unwaith mewn cenhedlaeth' 

Yn y Felinheli, Gwynedd, roedd pobl o bob cenhedlaeth i'w gweld ger y cei, wrth i adar dawelu rhywfaint a'r aer oeri.

"Mae'n neis gweld cymaint o bobl allan yn ei weld o," meddai un ddynes wrth raglen Newyddion S4C, gan ddangos y sbienddrych bocs grawnfwyd roedd hi wedi ei baratoi at yr achlysur. 

"Dwi wedi gwneud y bocs - dyna'r unig ffordd! Do'n i methu cael sbectol yn unlle."

Pwysleisiodd eraill bod y digwyddiad yn un "unwaith mewn cenhedlaeth" - gydag un ddynes ifanc yn dweud ei fod yn brofiad "mor cŵl" ond "bizarre."

Yn ôl Jaime Lewis o Gymdeithas Seryddol Pen-y-bont, roedd y digwyddiad yn "anhygoel." 

Roedd ymhlith y torfeydd ddaeth at ei gilydd ym Mhorthcawl, Bro Morgannwg - ac roedd yn poeni y byddai'r gymdeithas yn rhedeg allan o sbectolau. 

"Nid yn unig mae'r diffyg ar yr haul wedi bod yn 93%, sydd yn eithaf da - 1999 oedd y tro diwethaf i ni weld unrhyw beth o'r fath - ond mae'r tywydd yn berffaith... ac mae hi'n anghygoel gweld shwt cymaint o bobl yma i weld y diffyg ar haul," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Dydy'r rhan fwyaf o'r bobl yma ddim yn seryddwyr o gwbl, maen nhw jyst wedi troi lan i ofyn cwestiynau - beth alla' i weld, alla' i edrych drwy'r sgôp hyn... Mae jyst wedi bod yn arbennig." 

Prif lun: Owen Humphreys/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.