Y blychau pleidleisio ar agor yn is-etholiad Clacton

Bydd etholwyr yn Clacton-on-Sea, tref ar arfordir Essex, yn cael y cyfle i bleidleisio. Lluniau: Annabelle Lee-Ellis/Joe Giddens/PA Wire
Llun o Clacton on Sea ac arwydd etholiad.
Bydd trigolion etholaeth Clacton yn ne ddwyrain Lloegr yn dewis eu haelod seneddol newydd ddydd Iau.
 
Fe ymddiswyddodd arweinydd Reform UK Nigel Farage o'i rôl fel cynrychiolydd yr etholaeth yn ne-ddwyrain Lloegr ym mis Gorffennaf.
 
Mae Mr Farage yn un o 34 ar y papur pleidleisio yn yr is-etholiad, sydd wedi denu mwy o ymgeiswyr nag unrhyw etholiad tebyg arall ym Mhrydain. 
 
Ond mae'r prif bleidiau eraill yn Lloegr - Llafur, y Ceidwadwyr, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol - wedi gwrthod cymryd rhan.
 
Papur pleidleisio hirfaith
 
Image
Count Binface a Nigel Farage
Mae Count Binface (chwith) yn un o'r 33 sy'n wynebu Nigel Farage (dde) yn yr is-etholiad (Lluniau: PA Wire/Stefan Rousseau/Aaron Chown)

Ymhlith y rheiny ar y papur pleidleisio mae Count Binface, cymeriad dychanol sy'n dweud ei fod yn dod o'r gofod, a'r actor Lawrence Fox, sy'n ymgyrchydd asgell dde adnabyddus.

Mae 20 o'r 34 yn sefyll fel ymgeiswyr annibynnol - sy'n record mewn etholiad Prydeinig - ac eraill yn cynrychioli pleidiau bychain.

Mae'r papur pleidleisio ei hun bron yn un metr o hyd.

Fe fydd y blychau pleidleisio ar draws yr etholaeth yn agor am 07:00 ac yn cau am 22:00.

Y gred yw bydd y canlyniad yn barod i'w cyhoeddi rhwng 05:00 a 07:00 fore Gwener.

Image
Papur pleidleisio etholiad Clacton
Y papur pleidleisio hir  (Llun: Tendring District Council)

Yr ymgeiswyr yn is-etholiad Clacton yn llawn: 

Joseph 77 (Annibynnol), Adham Alkhatip (The Forward Party), Count Binface (Count Binface Party), Nick The Incredible Flying Brick (The Official Monster Raving Loony Party), Tony Cane (Annibynnol), Woke Trump Carrzee (Annibynnol), William Stuart James Clouston (Social Democratic Party), Rees Cowne (Annibynnol), Glenn Charles Cummings (Annibynnol), Martin Davies (Freedom Alliance – Real People, Real Alternative!), Andy Erlam (Annibynnol), Nigel Farage (Reform UK), Attieh Fard (Annibynnol), Laurence Fox (The Reclaim Party),  Tony Francis (Annibynnol), Robin Green (Annibynnol), Abi Hookway (Annibynnol), Howling Laud Hope (The Official Monster Raving Loony Party), Stephen Richard Ingram (Annibynnol), Amy Morris (Annibynnol), Derrick Norbert Morris (Annibynnol), Michael Noel O’Keeffe (Annibynnol), Martyn OBrien (Annibynnol), Nick Pelas (Annibynnol), Ketankumar Pipaliya (UK VOICE safer and stronger UK), Daniel Pocock (Annibynnol), James Ransley (Consensus Party Candidate), Gerry Smith (Annibynnol), Kai Stephens (British Democrats), John Stevens (Rejoin EU), Baron Von Thunderclap (The Official Monster Raving Loony Party), Pamela Walford (Annibynnol), Marcus White (Everyone is God Party), Marc Wilkinson (Annibynnol)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.