'Chwarae’n rhy arw': Dynes yn gwadu cyfrifoldeb am gi XL Bully a laddodd tad ei phartner
Mae llys wedi clywed bod dynes sydd wedi ei chyhuddo o fod yn berchen ar gi XL Bully a oedd allan o reolaeth mewn modd peryglus, ac a laddodd tad ei phartner, wedi honni fod y ci yn "chwarae’n rhy arw".
Roedd Chanel Fong, 33 oed, o Wrecsam yn emosiynol wrth iddi ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.
Clywodd y llys ei bod wedi cyhoeddi'n honedig ar ei chyfrif Facebook: "Wnaeth Cookie ddim ymosod ar Keven. Mae e’n fachgen mawr ac yn chwarae’n rhy arw.
"Dydi o ddim yn ymosodol o gwbl, mae’n meddwl ei fod yn dal yn gi bach."
Mae Ms Fong yn gwadu mai hi oedd yn berchen ar Cookie, ci peryglus a oedd allan o reolaeth yn honedig yng ngardd gefn ei chartref ar Ffordd Holt yn Wrecsam, ac a achosodd anafiadau a arweiniodd at farwolaeth Keven Jones, 62 oed.
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Mark Connor, yn ystod yr achos fod y drasiedi yn ymwneud â’i "thad-yng-nghyfraith" wedi digwydd cyn i’r gwaharddiad ar gŵn XL Bully gael ei gyflwyno.
Mae'r erlyniad yn honni fod Ms Fong yn berchen ar y ci gyda'i phartner, Joshua Jones.
Dywedodd Mr Connor: "Mae cŵn XL Bully yn cael eu bridio i fod yn anifeiliaid mawr a phwerus iawn, sy’n gallu achosi dinistr enbyd oherwydd eu maint a’u grym."
'Anafiadau trychinebus'
Roedd Ms Fong wedi dadlau nad hi oedd perchennog Cookie. Nid oedd ei phartner yn y tŷ pan ddigwyddodd yr ymosodiad ym mis Mai 2022.
"Roedd Cookie yn amlwg allan o reolaeth mewn modd peryglus oherwydd iddo frathu Mr Jones o leiaf ddwywaith ar ei goesau, gan achosi anafiadau trychinebus, heb unrhyw ysgogiad amlwg," meddai’r bargyfreithiwr.
Roedd iechyd Keven Jones yn "wael". "Roedd yn gaeth i gyffuriau Dosbarth A ar y pryd," meddai Mr Connor.
"Roedd ar bresgripsiwn methadon ac yn cymryd cyffuriau teneuo gwaed.
"Roedd Chanel Fong yn gwybod hyn i gyd ac roedd wedi cael ei adael ar ei ben ei hun i ddelio â dau gi XL Bully pwerus."
Roedd ci XL Bully arall o'r enw Rogue "yn ei dymor" yn y tŷ, a allai fod wedi arwain at broblemau gyda Cookie, ci gwrywaidd, yn ôl honiad yr erlyniad.
Wrth gael ei holi gan yr heddlu, dywedodd y diffynnydd fod Keven Jones wedi dweud wrthi ei fod yn mynd allan i nôl dau gi.
Roedd hi y tu mewn, ond clywodd ef yn dweud: "Cookie, dos oddi arna i."
Dywedodd Mr Connor wrth y rheithgor y byddent yn gweld delweddau "graffig" o’i anafiadau.
Roedd gwaed yn pwmpio o goes Mr Jones. Fe wnaeth Ms Fong alw'r gwasanaethau brys a cheisiodd roi cymorth cyntaf.
Ond oherwydd yr anafiadau "ofnadwy", yn enwedig i gefn coes Mr Jones, a’r golled eithafol o waed, nid oedd modd ei achub.
Cafodd Cookie ei ddifa yn dilyn y digwyddiad.
Clywodd y rheithgor fod y neges ar Facebook hefyd yn datgan: "Gorffwys mewn heddwch fy Cookie-Doe gwirion annwyl."
Mae’r achos yn parhau.